Casgliad Sbwriel Her y 3 Chopa Go Iawn

Casgliad Sbwriel Her y 3 Chopa Go Iawn

Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Archebu lle yn hanfodol.

Mae gennym le i 14 o wirfoddolwyr sy’n dymuno ymuno â ni i gymryd rhan yn Her y Tri Chopa Go Iawn: Casgliad Sbwriel ar yr Wyddfa. Cyfyngir ar nifer y llefydd yn sgil nifer yr Arweinyddion Mynydd sydd ar gael i gynorthwyo a nifer y llefydd sydd ar gael i deithio ar y trên i’r copa. Felly archebwch le yn gynnar os oes gennych ddiddordeb. Ar ôl cyrraedd y copa, byddwn yn mynd i lawr yn raddol at lwybr Llanberis gan gasglu a gwneud arolwg o sbwriel ar yr un pryd. Byddwn yn defnyddio Cofnodwyr Data GPS i wneud arolwg o leoliad a chyfanswm y sbwriel a ganfyddir gennym.

Parcio Ceir a Thaith Trên Am Ddim.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498