Caru Eryri: Diwrnod hyfforddiant Arweinwyr Gwirfoddol

Caru Eryri: Diwrnod hyfforddiant Arweinwyr Gwirfoddol

Llanberis 10:00 – 16:00

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Arweinydd Gwirfoddol Caru Eryri?

Ers rhoi’r cynllun ar waith, rydym wedi parhau i ystyried ffyrdd o ddatblygu’r rhaglen. Un datblygiad mawr yng nghynllun y llynedd oedd cyflwyniad ‘arweinwyr gwirfoddol’.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn arweinydd gwirfoddol, nodwch eich diddordeb mewn mynychu’r Diwrnod Hyfforddi Arweinwyr Caru Eryri lle bydd Mike Raine yn ymuno â chi.
Bydd yr hyfforddiant yn ymarferol, yn berthnasol, yn llawn gwybodaeth ac yn hwyl, a byddwch yn barod ac yn cael eich cefnogi i arwain grwpiau o wirfoddolwyr eich hun, gobeithio!

Beth sydd ei angen arnoch i fod yn gymwys?

• Rhaid bod â chymhwyster Cymorth Cyntaf Awyr Agored cyfredol
• Rhaid mynychu Diwrnod Hyfforddi Arweinwyr Gwirfoddol
• Rhaid i chi fod wedi mynychu lleiafswm o 5 sesiwn fel gwirfoddolwr i Caru Eryri ers 2021
Neu
• Rhaid i chi fod â chymhwyster AM cyfredol a dilys (Arweinydd Tir Isel/Arweinydd Rhostir/Arweinydd Mynydd – Haf)

Yn ystod y diwrnod cewch yr holl wybodaeth angenrheidiol am shifftiau, sut i nodi eich diddordeb, llwybrau, asesiadau risg, gwaith papur, offer ayyb, yn ogystal â sesiwn awyr agored lle byddwn yn ymarfer medrau a sefyllfaoedd a all ddigwydd ar ddiwrnod o arwain.

Nodwch eich diddordeb rŵan, neu e-bostiwch jen@snowdonia-society.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.