Gwirfoddoli: Gwanwyn Glân Cymru – Llynnoedd Yr Wyddfa

Gwirfoddoli: Gwanwyn Glân Cymru – Llynnoedd Yr Wyddfa

08:45 – 16:00, Llynnoedd Glaslyn a Llydaw

Mae Caru Eryri nôl yn 2024!

Ymunwch â ni wrth i ni gydweithio a Chadwch Gymru’n Daclus am flwyddyn arall i gymryd rhan yn eu hymgyrch amgylcheddol gweithredu torfol mwyaf, Gwanwyn Glân.

Fel rhan o’n hymdrechion eleni byddwn yn cynnal 4 diwrnod gwirfoddoli dros gyfnod Gwyliau Banc y Pasg.

Ein ffocws ar gyfer y diwrnod hwn fydd ar hyd glannau Llyn Llydaw a Glaslyn. Mae’r ddau lyn yn fannau problemus o ran sbwriel: P’un a ydynt wedi’u chwythu i lawr oddi ar y mynydd neu wedi’u cario gan un o’r nentydd niferus, mae torllwyth yn canfod ei ffordd yma.

Helpwch ni i fynd i’r afael â’r broblem hon a gorffen taith y sbwriel yn ein dŵr yma.

Lefel ffitrwydd – heriol

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.