Caru Eryri: Cynnal Llwybrau, Cwm Llan, Snowdon

Caru Eryri: Cynnal Llwybrau, Cwm Llan, Snowdon

09:00 – 15:00

Eleni rydym wedi penderfynu ymestyn y cynllun Caru Eryri i gynnwys gwaith cynnal a chadw llwybrau. Mae llawer o ymwelwyr a’r amodau tywydd garw yn golygu bod gwaith i’w wneud bob amser ar lwybrau’r Wyddfa.

Mae angen gwaith ar adran o’r llwybr sy’n cysylltu crib Allt Maenderyn gyda llwybr Watkin, felly os oes gennych awydd treulio diwrnod yn un o leoliadau mwyaf distaw yr Wyddfa, dyma gyfle gwych.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.