Caru Eryri: Tynnu carneddi *llawn*

Caru Eryri: Tynnu carneddi

Rhyd Ddu 09:00 – 15:00

Mae angen eich cymorth ar wardeniaid y parc cenedlaethol i chwalu carneddi, sef pentyrrau o gerrig nad oes eu hangen, sy’n cael eu creu ledled y parc.
Mae ethos ‘Gadael dim hoel’ yn fwy na pheidio gadael sbwriel yn unig. Mae’n golygu y dylid gadael y tirlun fel yr oedd pan gyrhaeddoch chi. Rydym yn awyddus iawn i chwalu’r carneddi yma oherwydd effaith weledol ymyrraeth dyn yn ogystal ag erydiad llwybrau cynyddol.

Ymunwch â ni ar lwybr Rhyd-ddu wrth i ni chwalu pob un o’r carneddi heblaw y rhai sy’n bwysig o ran dilyn y trywydd cywir!

Lefel ffitrwydd – heriol

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.