Caru Eryri: Taith ‘Natur Eryri’ efo Mike Raine *LLAWN*

Caru Eryri: Taith ‘Natur Eryri’ efo Mike Raine

Taith gerdded ‘Natur Eryri’ am ddim, gyda’r awdur, hyfforddwr mynydda, ac arbenigwr Eryri Mike Raine.

Mae’r diwrnod yn cwmpasu holl gydrannau’r amgylchedd megis daeareg, geomorffoleg, rhewlifiant, blodau, mwsoglau, cnwpfwsoglau, cen, rhedyn, coed ac, a dweud y gwir, unrhyw beth arall yr ydym yn digwydd mynd heibio. Mae hefyd yn edrych ar yr effaith ddynol ar y dirwedd dros y blynyddoedd ac yn ystyried gofynion defnydd tir cystadleuol heddiw.

Yn rhan o brosiect Caru Eryri, mae’r diwrnod yn gyfle gwych i ddysgu am fywyd gwyllt a heriau unigryw y Parc Cenedlaethol. Diwrnod allan wych i gwirfoddolwyr Caru Eryri, neu unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am Eryri!

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.