Brwydro Jac y Neidiwr Waunfawr
Archebu lle yn hanfodol
Yn ogystal â’r gwaith i glirio Jac y Neidiwr yng nghyffiniau’r Bala, rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac Antur Waunfawr i helpu i reoli Jac y Neidiwr ger afon Gwyrfai. Y llynedd, fe wnaethom gychwyn prosiect ar y cyd ag Antur Waunfawr i’w helpu i glirio eu tiroedd ac i atal y Jac y Neidiwr rhag cyrraedd yr afon. Dewch i’n helpu i barhau â’r gwaith hwn a gwneud rhagor o gynnydd.
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498