4/7: Brwydro Jac y Neidiwr, Y Bala
Archebu lle yn hanfodol
Mae’r tymor tynnu Jac y Neidiwr wedi cychwyn!
Mae Jac y Neidiwr yn blanhigyn ymwthiol, estron. Bydd clystyrau trwchus ohono yn mygu planhigion eraill, gan wthio allan y cymunedau o blanhigion cynhenid, and phan fydd yn cilio yn y gaeaf, bydd yn gadael glannau afonydd gwag sy’n fwy tebygol o gael eu herydu.
Mae Jac y Neidiwr hefyd yn cynhyrchu symiau sylweddol o neithdar sy’n denu pryfed peillio oddi wrth blanhigion cynhenid. Rydym wedi bod yn gweithio gydag APCE yn ystod blynyddoedd diweddar ar raglen lwyddiannus iawn i reoli’r planhigyn hwn, sy’n golygu fod y planhigyn wedi diflannu o rai mannau ble’r oedd yn bla yn flaenorol. Byddwn yn tynnu’r planhigyn hwn â llaw (mae’n hawdd iawn ei lacio) ac yn targedu’r llednentydd sy’n bwydo Llyn Tegid.
Diwrnodau eraill: 10/7, 15/7, 23/7, 29/7 (10ed Gorffennaf: Cludiant am ddim ar gael)
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498