Adeiladu Llwybr

Adeiladu Llwybr Llechi, Llan Ffestiniog

Archebu lle yn hanfodol

“Dyma lwybr cylchog 83-milltir o hyd sy’n caniatáu i gerddwyr archwilio treftadaeth ddiwydiannol pentrefi llechi ledled Eryri. Mae’r llwybr hwn yn eich tywys i rai o fannau mwy distaw ond hardd Eryri, drwy’r holl brif fynyddoedd, gan gynnig ystod o brofiadau o’r mynydd i’r goedwig, o’r llyn i’r afon, o’r cwm i’r môr.”

Ar gyfer y diwrnod yma byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar ddarn o lwybr troed rhwng Llyn Ffestiniog a Chwm Penmachno. Mae’r ardal dan sylw angen cerrig yw gollwng yn ei lle fel gall pobl parhau i fwynhau’r llwybr hardd hwn. Os ydych chi’n hoffi cael eich dwylo’n fudr dyma’r diwrnod i chi!

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498