Gwirfoddoli Coetir, Betws y Coed
Archebu lle yn hanfodol
Mae Tŷ Hyll yn adeilad nodedig sy’n sicr yn denu sylw. Rhan o apêl yr adeilad unigryw hwn yw ei leoliad gwych.
Mae’r coetir a’r gerddi sy’n amgylchynu’r tŷ nid yn unig yn apelio ar y llygad ond yn gartref i lu o ffawna a fflora.
Mae’r partïon misol gwaith coetir yn cynnig rhywbeth i bawb sydd â chyfle i brofi rhai o’ch sgiliau ymarferol wrth reoli coetiroedd!
Yn ystod y sesiwn mis yma byddwn yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys rheoli coetir, cynnal a chadw llwybr a ffensio.
Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
07534244518