Trafnidiaeth gynaladwy

Sherpa bus in Snowdonia

Mae Sherpa’r Wyddfa yn pasio heibio Tŷ Hyll

Rydym yn croesawu ymwelwyr yn cyrraedd Tŷ Hyll ar droed, ar gefn beic ac ar y bws. Gallwch gynllunio eich taith ar Traveline Cymru.

Ar gefn beic

Mae raciau beiciau diogel ar gael yn ein maes parcio. Chwiliwch am siwrnai beic sy’n addas i chi ar cyclestreets.net
Mae Llwybr Marin, un o lwybrau beicio mynydd mwyaf adnabyddus yn ngogledd Cymru, chwarter milltir i ffwrdd. Taflen y Llwybr Marin.

Ar droed

Mae na lwybr cyhoeddus ar hyd glan Afon Llugwy o Fetws y Coed i Dŷ Hyll.
Gallwch fforio i’r ardal o gwmpas Tŷ Hyll drwy ddilyn Llwbrau Cerdded Tŷ Hyll.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae lleoliad Tŷ Hyll ar ffordd bws S2 Sherpa’r Wyddfa rhwng Llanberis/Capel Curig a Betws y Coed, â safle bws tu allan i’r tŷ.
Mae’r orsaf dren agosaf ym Metws y Coed, 5 milltir i ffwrdd.

No Upcoming Events Found