Amseroedd ymweld ac agor

Dod o hyd i Tŷ Hyll

Mae Tŷ Hyll ar yr A5 rhwng Capel Curig a Betws y Coed, lle mae’r A5 yn croesi Afon Llugwy.

Tŷ Hyll, Capel Curig, Conwy
LL24 0DS

Rydym yn croesawu ymwelwyr yn cyrraedd Tŷ Hyll ar droed, ar gefn beic ac ar y bws. Gallwch gynllunio eich taith ar Traveline Cymru.

Ar gefn beic

Mae raciau beiciau diogel ar gael yn ein maes parcio. Chwiliwch am siwrnai beic sy’n addas i chi ar cyclestreets.net
Mae Llwybr Marin, un o lwybrau beicio mynydd mwyaf adnabyddus yn ngogledd Cymru, chwarter milltir i ffwrdd. Taflen y Llwybr Marin.

Ar droed

Mae na lwybr cyhoeddus ar hyd glan Afon Llugwy o Fetws y Coed i Dŷ Hyll.
Gallwch fforio i’r ardal o gwmpas Tŷ Hyll drwy ddilyn Llwbrau Cerdded Tŷ Hyll.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae lleoliad Tŷ Hyll ar ffordd bws S2 Sherpa’r Wyddfa rhwng Llanberis/Capel Curig a Betws y Coed, â safle bws tu allan i’r tŷ.
Mae’r orsaf dren agosaf ym Metws y Coed, 5 milltir i ffwrdd.

Mynediad am ddim

Ni chodir tâl i ymweld â Thŷ Hyll, yr Ystafell Wenyn neu’r ardd, ond fel elusen gofrestredig rydym yn croesawu cyfraniadau at eu cynhaliaeth.



Oriau agor

Gardd a choetir: ar agor bob dydd trwy’r dydd

Ffoniwch yr ystafell de i gadw lle ac amseroedd agor cyfredol.

Ymholiadau cyffredinol am y tŷ, gardd a choetir


 01286 685498

Mynediad hygyrch

  • Rydym yn croesawu cŵn cymorth ymhob rhan o’r tŷ a’r tiroedd
  • Mae un lle parcio wedi’i neilltuo i ddeiliaid Bathodyn Glas yn y maes parcio uchaf
  • Nid yw’r brif fynedfa yn hygyrch i gadeiriau olwyn; awgrymir i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ddefnyddio’r ail fynedfa tua 10 medr ymhellach i fyny’r isffordd