Mae tymor Caru Eryri wedi hen ddechrau, ac eleni gallwn gynnal y rhaglen waith bwysig hon diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chronfa Mannau Lleol dros Fyd Natur.
Gyda chefnogaeth hael y cyllidwyr hyn, a holl waith ein gwirfoddolwyr, staff a phartneriaid, mae Caru Eryri yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r lleoedd sy’n bwysig i chi yn Eryri. Mae gwirfoddolwyr wedi gweithio’n ddygn i gasglu sbwriel o leoedd poblogaidd, cynnal llwybrau troed hollbwysig ac ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn â mwynhau Eryri mewn modd parchus a diogel. Os gwelwch chi ein tîm o gwmpas y lle, cofiwch aros i gael sgwrs! Maen nhw wrth eu bodd yn sgwrsio â phobl sy’n caru Eryri cymaint ag y maen nhw.
