Isobel yw ein Rheolwr Cadwraeth, sy’n arwain yn strategol ar raglen gadwraeth ymarferol Cymdeithas Eryri ochr yn ochr â’r Swyddog Cadwraeth a’r Swyddog Gwirfoddolwyr. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Isobel yn siaradwr Cymraeg ail iaith sy’n frwdfrydig dros dirweddau gogledd Cymru a byd natur.
Mae ganddi radd BSc mewn Gwyddor Planhigion o Brifysgol Sheffield ac mae ganddi brofiad cadwraeth ymarferol trwy wirfoddoli’n lleol a gwaith proffesiynol blaenorol yn America, gyda grwpiau ysgolion coedwig lleol, a chyda thîm AHNE Ynys Môn.
Mae Isobel yn frwdfrydig ac yn awyddus i adeiladu rhaglen waith cadwraeth y Gymdeithas – os hoffech wirfoddoli neu drefnu dyddiau gwaith, cysylltwch â ni! Yn ei hamser hamdden mae Isobel yn mwynhau dringo creigiau, crwydro’r mynyddoedd, reidio ei beic modur, ac ymweld â thirweddau hardd Cymru yn gyffredinol, felly dewch draw i gael sgwrs os gwelwch chi hi yn ein cefn gwlad.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk