Hazwani Ibrahim

Swyddog Ariannol

Ymunodd Wani â thîm y Gymdeithas fel Swyddog Ariannol, sy’n cynnwys y gorchwylion gweinyddol a braidd yn ddiflas o sicrhau cydbwysedd yn y llyfrau, cynnal cofnodion ariannol a chynhyrchu adroddiadau ariannol ar gyfer rhanddalwyr.

 

 

Ymwelodd Wani ag Eryri am y tro cyntaf yn 2012 pan astudiodd ei chwaer ar gyfer ei gradd meistr ym Mhrifysgol Bangor, a chwympodd mewn cariad yn syth bin â’r ardal hardd. Mae rhywbeth am y mynyddoedd a choedwigoedd gogledd Eryri sy’n rhoi iddi y tawelwch sy’n lliniaru ei phryder.

 

Yn ei hamser sbâr, mae Wani yn mwynhau crwydro gogledd Cymru ar droed a darllen am ambell i sgandal corfforaethol. Mae hi’n gobeithio dysgu cymaint â phosib am weinyddu gwaith cadwraeth fel ei bod yn gallu cyflwyno hyn yn ei gwlad ei hun, Malaysia, yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg ac yn mwynhau cael y cyfle i ddefnyddio ac ymarfer yr ymadroddion Cymraeg y mae hi wedi eu dysgu yn ei bywyd bob dydd!