Mae Cymdeithas Eryri yn hynod siomedig bod Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio o 8 pleidlais i 7 o blaid cynllun ynni dŵr yn Rhaeadr y Cwm, Llan Ffestiniog, a fyddai, ar adegau, yn gweld cyfran hynod sylweddol o’r dŵr yn cael ei ddargyfeirio o’r rhaeadr ac i mewn i bibell blastig.
Yn ein barn ni, nid yw’r ‘amgylchiadau cwbl eithriadol’ y mae’n rhaid iddyn nhw fodoli (o dan Bolisi Cynllunio yng Nghymru) er mwyn i ddatblygiad mewn SoDdGA hyd yn oed gael ei ystyried yn bodoli yng Nghwm Cynfal, ac rydym wedi ysgrifennu at Siân Gwenllian, Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gynllunio, i gadarnhau a yw dehongliad presennol Awdurdod y Parc o’r ymadrodd yn gadarn ai peidio. Ni all cynhyrchu swm bach o ynni adnewyddadwy fod yn ddigon, ac ni allai’r swm cwbl aneithriadol o drydan a gynhyrchir ar y safle hwn byth gyfiawnhau’r niwed y mae’r datblygiad hwn mewn perygl o’i achosi i’w werth o ran bywyd gwyllt a thirwedd.
Hefyd mewn perygl mae’r union bethau sy’n gwneud rhaeadr yn rhaeadr – ei hedrychiad, ei sŵn a’r teimlad o lif uchel o ddŵr yn rhuo. Y ‘teimlad’ hwn a anogodd David Cox i beintio’r safle ym 1836; dyna oedd ym meddyliau awduron y Mabinogi; ac mae hynny’n parhau i ysbrydoli defnyddwyr heddiw o’r llwybr canoloesol hynafol wrth iddyn nhw ddilyn Llwybr Llechi Eryri. Daeth ymgynghorydd arbenigol Awdurdod y Parc ei hun i’r casgliad y bydd llif trawiadol y rhaeadr yn digwydd am gyfran lai o’r flwyddyn, gan adael cymeriad, gwerth amwynder ac ansawdd gweledol y rhaeadr wedi ei niweidio am byth heb fodd i’w hadfer.
Yn y gwrandawiad Pwyllgor, siaradodd ein Cyfarwyddwr, Graeme Cotterill, ar ran clymblaid o sefydliadau lleol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Achub ein Hafonydd (Save Our Rivers), Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Plantlife, Buglife, a Chyngor Mynydda Prydain; yn ogystal â’r mwy na mil o bobl a wrthwynebodd y cynllun hwn yn ffurfiol cyn cyfarfod Pwyllgor blaenorol. Anogodd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud yr hyn y dylai Awdurdod Parc Cenedlaethol ei wneud: sefyll dros ei rinweddau arbennig ei hun. Yn drist iawn, roedd ychydig dros hanner y rhai oedd yn bresennol yn ochri gyda gwrthwynebwyr.
Gyda’r cynnig hwn wedi’i gymeradwyo, mae Eryri mewn perygl o ddod yn esiampl o’r ddyletswydd i warchod safleoedd bywyd gwyllt pwysig a thirweddau gwarchodedig am y rhesymau anghywir. Dylai pawb sy’n byw yn y dirwedd hon ac yn ei charu fod yn gweithio’n ymarferol gyda’i gilydd i ystyried sut y gall Parc Cenedlaethol yr unfed ganrif ar hugain fod o fudd i’w ffermwyr, harddwch naturiol, ymwelwyr, trigolion lleol a bywyd gwyllt. Mae Cymdeithas Eryri yn parhau i ymrwymo i chwarae ein rhan yn y dyfodol cadarnhaol hwnnw, ond mae’r datblygiad hwn – a allai osod cynsail hynod niweidiol i SoDdGA ledled Cymru – yn enghraifft o sut yn union na ddylai’r dyfodol hwnnw edrych.
Er y byddwn rŵan yn ystyried ein camau nesaf, nid yw’r frwydr i achub Cwm Cynfal wedi dod i ben. Cofiwch edrych ar ein gwefan ni a’n partneriaid a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol am fwy.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk