Nod Cymdeithas Eryri yw ysbrydoli mwy o bobl i weithredu’n gynaliadwy i gefnogi Eryri sy’n fwy cyfoethog o ran byd natur a sicrhau bod Eryri yn enghraifft ar gyfer rheoli tirweddau dynodedig yn gynaliadwy, lle mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn cydweithio i sicrhau bod tirwedd, diwylliant a’r dirwedd hanesyddol yn cael eu gwerthfawrogi, eu gwarchod a’u mwynhau.
Ers bron i 40 mlynedd, mae Tŷ Hyll, ger Betws-y-coed, wedi bod yn rhan annatod o ymdrechion y Gymdeithas i gyflawni ei hamcanion. Wedi’i brynu ym 1988, dyma oedd ein pencadlys tan 2010 ac am lawer o’r cyfnod ers hynny mae wedi bod yn ystafell de, yn ganolfan i wenyn mêl ac yn safle arddangos ar gyfer cadwraeth coetiroedd a garddio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Nawr, fodd bynnag, mae ymddiriedolwyr y Gymdeithas wedi penderfynu bod angen i ni ailgyfeirio ein hadnoddau i rywle arall, ac rydym yn chwilio am berchennog newydd ar gyfer y tŷ/ystafell de hanesyddol hwn, yr ardd fywiog a’r coetir hardd.
Nid oedd y penderfyniad i werthu yn un hawdd, ac nid yw mewn unrhyw ffordd yn bwriadu diystyru’r cyfraniad y mae Tŷ Hyll wedi’i wneud yn flaenorol i waith y Gymdeithas, nac yn fwriadol ddibrisio’r cariad a gwaith dygn sydd wedi mynd i wneud yr adeilad, yr ardd a’r coetiroedd yr hyn ydyn nhw heddiw. Yn syml, mae’n cydnabod ein bod ni’n credu y bydd y defnydd gorau o’n hadnoddau, yn y dyfodol, yn fwy priodol mewn mannau eraill – a bod eraill yn debygol o fod mewn gwell sefyllfa i barhau i ofalu am yr adeilad a’r tir.
Gan dybio y bydd ei bris wrth gefn sydd eto i’w bennu yn cael ei ateb, bydd Tŷ Hyll yn cael ei werthu mewn ocsiwn ar 23 Medi 2026*. Er ein bod ni’n cydnabod nad oes gennym ni unrhyw reolaeth dros gynlluniau unrhyw berchennog newydd ar gyfer yr adeilad a’r tir, rydym ni’n gobeithio’n fawr y byddan nhw’n parhau i reoli’r safle mewn ffordd sy’n cydnabod y blynyddoedd o ymdrech a wnaed gan staff Cymdeithas Eryri ac – yn bwysicach fyth – gwirfoddolwyr. Lle bo modd, efallai y byddwn ni’n gallu eu cefnogi’n weithredol yn eu hymdrechion i reoli’r safle’n gynaliadwy.
Unwaith y bydd gwerthiant wedi’i gwblhau, bwriad Cymdeithas Eryri yw dynodi’r arian a godwyd o fewn ein cyfrifon i sicrhau y gallwn olrhain yn benodol at ba bwrpas y defnyddid elw’r gwerthiant a rhannu’r newyddion hwn gyda’n cefnogwyr. Ni fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrannu at gostau rhedeg dyddiol y Gymdeithas, gan nad ydym yn credu y byddai hyn yn waddol priodol i’r safle a’i bobl. Bydd yr holl arian, maes o law, yn cael ei ail-fuddsoddi’n uniongyrchol yn nhirwedd, bywyd gwyllt a phobl Eryri.
*Roedd fersiwn wreiddiol y dudalen we hon yn nodi’r dyddiad fel 26 Awst. Ers hynny, mae wedi cael ei newid i 23 Medi 2026
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk