Cyfle olaf i achub?

Cyfle olaf i achub?

Gallai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gymeradwyo cynllun y mae ymgyrchwyr yn ei ddadlau fydd yn niweidio un o raeadrau mwyaf eiconig y Parc Cenedlaethol.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn Eryri yn rhybuddio y gallai’r wythnos nesaf fod y cyfle olaf i achub un o raeadrau mwyaf eiconig y Parc Cenedlaethol – Rhaeadr y Cwm, uwchben Llan Ffestiniog.

Ar ddydd Mercher 24 Mehefin, gofynnir unwaith eto i Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri benderfynu a yw’n dderbyniol cymeradwyo cynllun pŵer dŵr a fyddai, ar adegau, yn cynnwys bron i 70% o’r dŵr yn cael ei ddargyfeirio allan o’r rhaeadr i mewn i bibell blastig.

Os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, bydd yn effeithio’n sylweddol ar yr union bethau sy’n gwneud rhaeadr yn rhaeadr – edrychiad, sŵn a theimlad llifeiriant dŵr. Y rhinweddau hardd hyn anogodd David Cox i baentio’r safle yn 1836; roeddent ym meddyliau awduron canoloesol y Mabinogion; ac maent yn parhau i ysbrydoli defnyddwyr y llwybr canoloesol hynafol heddiw wrth iddyn nhw archwilio Llwybr Llechi Eryri.

Bydd hefyd yn newid yn sylfaenol yr amodau amgylcheddol a arweiniodd at ddynodi’r ceunant fel rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) – lleoliad a ystyrir yn arwyddocaol yn genedlaethol oherwydd y rhywogaethau agored i niwed sydd i’w cael yno, gan gynnwys planhigion prin sy’n hoffi lleithder. Nododd arbenigwr yr ymgeisydd ei hun, oherwydd diffyg tystiolaeth wyddonol, y byddai’n amhosibl rhagweld gydag unrhyw sicrwydd pa effaith y gallai unrhyw leihad yn llifeiriant y dŵr ei chael ar y rhywogaethau hyn. Mae ymgyrchwyr yn parhau i annog y dylid mabwysiadu dull rhagofalus o weithredu.

Ar ôl i’r Senedd ddatgan Argyfwng Natur yn 2021, cryfhaodd Llywodraeth Cymru y Polisi Cynllunio yng Nghymru i ddatgan yn glir na ddylid cael unrhyw ddatblygiad mewn SoDdGA’oedd, ac eithrio o dan ‘amgylchiadau cwbl eithriadol’. Mae ymgyrchwyr yn gwadu’n benodol eu bod yn bodoli yma. Byddai unrhyw benderfyniad yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn unig yn ei wneud yn ‘gwbl eithriadol’ yn ddiffygiol iawn, a gallai osod cynsail hynod niweidiol i SoDdGA’oedd ledled Cymru. Mae ymgyrchwyr wedi gofyn i Lywodraeth Cymru egluro a yw dealltwriaeth Awdurdod y Parc o’r polisi cynllunio ar ‘amgylchiadau cwbl eithriadol’ yn gadarn ai peidio.

Mae’r cynllun wedi wynebu gwrthwynebiad enfawr, gyda mwy na 1,000 o bobl wedi cofrestru eu gwrthwynebiad yn ffurfiol ochr yn ochr â chynghrair o grwpiau amgylcheddol: Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Achub ein Hafonydd, Cymdeithas Eryri, Buglife, Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Plantlife a Chyngor Mynydda Prydain.

Dywedodd Graeme Cotterill, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: “Ni ddylai unrhyw raeadr fod yn nodwedd ran amser o dirwedd Eryri – heb sôn am un mor eiconig a gwerthfawr â hon – ac ni ellir honni bod cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn unig yn ‘amgylchiadau cwbl eithriadol’ sydd eu hangen ar gyfer datblygu mewn SoDdGA. Er gwaethaf y niwed posibl i fywyd gwyllt a gwerth tirwedd y safle, ni fyddai’r cynllun yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddadgarboneiddio economi Eryri – heb sôn am un ‘eithriadol’.”

Ychwanegodd Sue Beaumont, Cadeirydd Cymdeithas Eryri: “Rydyn ni’n galw ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i sefyll dros rinweddau arbennig y safle hwn. Bydd peidio â gwneud hynny’n gosod cynsail peryglus ar gyfer safleoedd bywyd gwyllt pwysig eraill ledled Cymru. Dylen ni i gyd fod yn gweithio’n frwd gyda’n gilydd i helpu ein Parc Cenedlaethol i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gwella byd natur er budd hirdymor pawb sy’n byw ac yn gweithio yma ac yn ymweld â’r ardal.”