Diolch…

Diolch, oddi wrth Mary-Kate Jones, Rheolwr Project Cymdeithas Eryri.

Ddoe mi ddois i ar draws dadl ar y cyfryngau cymdeithasol ar newid hinsawdd; arwyr yr allweddellau yn trosglwyddo’r bai am y sefyllfa y cawn ein hunain ynddi heddiw.

Wrth ystyried yr hyn yr oeddwn wedi ei ddarllen, mi wnes i fy atgoffa fy hun o bwynt pwysig: rydw i’n teimlo’n ffodus iawn. Yn ffodus bod yna bobl sy’n poeni – gwirfoddolwyr, arwyr y blaned. Y sawl sy’n casglu sbwriel ac adeiladu llwybrau, y bobl sy’n rheoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, yn clirio prysgwydd, yn cael gwared â rhywogaethau ymledol neu’n helpu rhywogaethau brodorol i ffynnu. Y bobl hynny’n sy’n rhoi o’u hamser a’u hegni i wneud rhywbeth da dros y blaned!

Bellach rydw i’n gweithio’n bennaf yn y swyddfa, ond ambell dro rydw i’n picio allan i weld be mae ein tîm yn ei wneud ar y ddaear. Yr wythnos ddiwethaf, cefais gyfle i grwydro gydag Owain Thomas, Swyddog Project, Rob Booth o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a’u grŵp o wirfoddolwyr wrth iddyn nhw weithio i reoli gwlyptir.

Mae gwlyptir yn un o’m hoff gynefinoedd – maen nhw’n hynod ddifyr. Yn gartref i gasgliad unigryw o fywyd gwyllt, maen nhw’n glanhau dŵr, yn chwarae rôl mewn atal llifogydd ac yn fannau hanfodol ar gyfer storio carbon. Felly, mae ganddyn nhw rôl bwysig iawn mewn rhwystro newid hinsawdd. Yn wir, mae gorgorsydd yn storio mwy o garbon na choedwigoedd glaw, er bod eu harwynebedd gryn dipyn yn llai. Mae rhyw ddyfnder arbennig iddyn nhw – yn llythrennol felly – gan fod mawn ddeg metr o ddyfnder ar ambell i safle. Mae angen eu gwarchod.

Mae gwlyptiroedd yn sensitif a’r ffactor pwysicaf wrth eu rheoli yw eu cadw’n llaith. Mae coed yn blanhigion sychedig ac yn ymwthio i wlyptir wrth i’w hadau grwydro, glanio a thyfu. Mae hyn yn peri problem arbennig pan fo gwlyptir yn ffinio gyda phlanhigfeydd o goed coniffer anfrodorol – ffynhonnell diddiwedd o hadau coed sy’n tyfu’n gyflym. Pa bai’r rhain yn cael eu gadael heb eu rheoli, byddai’r coed yma’n llythrennol yn yfed holl ddŵr y gwlyptir. Mae gan hyn oblygiadau argyfyngus i’r blaned gyfan; wrth i wlyptiroedd sychu, maen nhw’n gollwng y carbon deuocsid sydd wedi ei gloi yn y mawn, dydyn nhw ddim yn gallu cynnal y casgliad o fywyd gwyllt a geir arnyn nhw ac mae eu gallu i atal llifogydd yn lleihau. Mae’n hanfodol bod gwlyptiroedd yn cael eu gwarchod a’u cynnal yn y cyflwr gorau – cyn iddi fod yn rhy hwyr.

Roedd y diwrnod yma’n arbennig o braf a heulog, ac ni allwn feddwl am unlle gwell yr hoffwn fod na gwarchodfa natur hardd Cors Bodgynydd. Daeth naw gwirfoddolwr draw ar y diwrnod, pob un o gefndir gwahanol, gyda gwahanol agwedd, diddordeb a chredoau. Ond roedd pob un yno dros un achos; i warchod ein gwlyptir! Roedd yr awyrgylch ar y diwrnod yn gyferbyniad braf i’r diwylliant o feio rhywun arall yr ydw i wedi ei weld ar Facebook. Gweithiodd y bobl anhygoel yma ochr yn ochr i glirio conifferau ac eginblanhigion bedw ymledol. Rydw i’n teimlo’n arbennig o ddiolchgar iddyn nhw a’r gwaith maen nhw’n ei wneud. Mewn cyfnod lle dylai gwleidyddion fod yn arwain y ffordd – ond ddim yn gwneud hynny – mae’r bobl yma’n gweithredu’n dawel; yn cwblhau gorchwylion budr ond hanfodol tra bod gweddill y byd yn dadlau ynglŷn â lle i ddechrau.  Diolch i chi.

Os hoffech weithredu ond ddim yn gwybod lle i gychwyn, pam na wnewch chi gwirfoddoli?  Fel y gŵyr pawb bellach, does dim planed B.

Comments are closed.