Nod Cymdeithas Eryri yw ysbrydoli mwy o bobl i weithredu’n gynaliadwy i gefnogi Eryri sy’n fwy cyfoethog o ran byd natur a sicrhau bod Eryri yn enghraifft ar gyfer rheoli tirweddau dynodedig yn gynaliadwy, lle mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn cydweithio i sicrhau bod tirwedd, diwylliant a’r dirwedd hanesyddol yn cael eu gwerthfawrogi, eu gwarchod a’u mwynhau.
Ers bron i 40 mlynedd, mae Tŷ Hyll, ger Betws-y-coed, wedi bod yn rhan annatod o ymdrechion y Gymdeithas i gyflawni ei hamcanion. Wedi’i brynu ym 1988, dyma oedd ein pencadlys tan 2010 ac am lawer o’r cyfnod ers hynny mae wedi bod yn ystafell de, yn ganolfan i wenyn mêl ac yn safle arddangos ar gyfer cadwraeth coetiroedd a garddio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Nawr, fodd bynnag, mae ymddiriedolwyr y Gymdeithas wedi penderfynu bod angen i ni ailgyfeirio ein hadnoddau i rywle arall, ac rydym yn chwilio am berchennog newydd ar gyfer y tŷ/ystafell de hanesyddol hwn, yr ardd fywiog a’r coetir hardd.
Nid oedd y penderfyniad i werthu yn un hawdd, ac nid yw mewn unrhyw ffordd yn bwriadu diystyru’r cyfraniad y mae Tŷ Hyll wedi’i wneud yn flaenorol i waith y Gymdeithas, nac yn fwriadol ddibrisio’r cariad a gwaith dygn sydd wedi mynd i wneud yr adeilad, yr ardd a’r coetiroedd yr hyn ydyn nhw heddiw. Yn syml, mae’n cydnabod ein bod ni’n credu y bydd y defnydd gorau o’n hadnoddau, yn y dyfodol, yn fwy priodol mewn mannau eraill – a bod eraill yn debygol o fod mewn gwell sefyllfa i barhau i ofalu am yr adeilad a’r tir.
Gan dybio y bydd ei bris wrth gefn sydd eto i’w bennu yn cael ei ateb, bydd Tŷ Hyll yn cael ei werthu mewn ocsiwn yn ddiweddarach yr haf hwn. Er ein bod ni’n cydnabod nad oes gennym ni unrhyw reolaeth dros gynlluniau unrhyw berchennog newydd ar gyfer yr adeilad a’r tir, rydym ni’n gobeithio’n fawr y byddan nhw’n parhau i reoli’r safle mewn ffordd sy’n cydnabod y blynyddoedd o ymdrech a wnaed gan staff Cymdeithas Eryri ac – yn bwysicach fyth – gwirfoddolwyr. Lle bo modd, efallai y byddwn ni’n gallu eu cefnogi’n weithredol yn eu hymdrechion i reoli’r safle’n gynaliadwy.
Unwaith y bydd gwerthiant wedi’i gwblhau, bwriad Cymdeithas Eryri yw dynodi’r arian a godwyd o fewn ein cyfrifon i sicrhau y gallwn olrhain yn benodol at ba bwrpas y defnyddid elw’r gwerthiant a rhannu’r newyddion hwn gyda’n cefnogwyr. Ni fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrannu at gostau rhedeg dyddiol y Gymdeithas, gan nad ydym yn credu y byddai hyn yn waddol priodol i’r safle a’i bobl. Bydd yr holl arian, maes o law, yn cael ei ail-fuddsoddi’n uniongyrchol yn nhirwedd, bywyd gwyllt a phobl Eryri.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk