Rydyn ni’n recriwtio: Swyddog Cadwraeth Ymarferol

GWYBODAETH ALLWEDDOL: Swyddog Cadwraeth Ymarferol

  • Oriau: 37.5 awr/wythnos (llawn amser)
  • Yn ystyried ymgeiswyr rhan amser: ydym (lleiafswm 22.5 oriau/wythnos)
  • Cyflog: £27,540/y flwyddyn
  • Yn adrodd i: Rheolwr Cadwraeth
  • Adrodd yn uniongyrchol: neb

 

PRIF BWRPAS Y SWYDD

Prif rôl y Swyddog Cadwraeth Ymarferol yw arwain ein gwirfoddolwyr yn frwdfrydig ac yn gymwys ar ddyddiau gwaith cadwraeth ymarferol mewn safleoedd ledled Parc Cenedlaethol Eryri, drwy gydol y flwyddyn, boed law neu hindda!Mae’r dyddiau gwirfoddoli hyn o fudd i’r amgylchedd naturiol a lles gwirfoddolwyr, ac yn cyfrannu at dargedau allbwn prosiectau a ariennir a nodau strategol Cymdeithas Eryri.

DISGRIFIAD SWYDD

 Prif gyfrifoldebau:

  • Arwain grwpiau o wirfoddolwyr ar ystod eang o ddyddiau gwaith ymarferol yn yr awyr agored mewn modd diogel a hyderus, gan gysylltu â staff o’n sefydliadau partner ac asesu risg amodau’n ddeinamig
  • Hyrwyddo gwirfoddoli a rhannu gwybodaeth am gadwraeth amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri yn ystod dyddiau gwaith gwirfoddol, gan annog eu brwdfrydedd a’u grymuso i ymgysylltu â ni yn yr awyr agored drwy gydol y flwyddyn ac o dan amrywiaeth o amodau
  • Gweithio gyda’r tîm Cadwraeth dan gyfarwyddyd y Rheolwr Cadwraeth i hwyluso a chyflwyno rhaglen wirfoddoli amrywiol yn unol â chynllun gweithredu a strategaeth y Gymdeithas
  • Cofnodi metrigau allbwn ac adborth o ddyddiau gwaith wedi’u cwblhau, a fydd yn llywio adrodd ar brosiectau
  • Trefnu a chynnal y storfa offer a chyflenwadau mewn modd systematig ac ymwybodol o ddiogelwch
  • Cefnogi’r Swyddog Gwirfoddolwyr pan fo angen gyda gweinyddiaeth ddyddiol y gronfa ddata gwirfoddolwyr, cyfathrebiadau gwirfoddolwyr, a hysbysebion digidol
  • Cyfrannu at ddatblygiad unedau ac adnoddau hyfforddi newydd, trefnu ac arwain sesiynau hyfforddi, a rhoi asesiadau ar waith fel asesydd Agored

 Disgwylir i bawb sy’n cael eu cyflogi gan Gymdeithas Eryri:

  • Gynrychioli’r Gymdeithas mewn digwyddiadau allanol er mwyn cynyddu cefnogaeth y cyhoedd i’n gwaith (yn cynnwys recriwtio aelodau newydd, gwirfoddolwyr a chefnogwyr)
  • Gysylltu â staff eraill y Gymdeithas i sicrhau bod gweithgareddau’r Gymdeithas yn digwydd yn ddidrafferth
  • Gyfrannu mewnbwn tuag at fonitro a gwerthuso gwaith y Gymdeithas
  • Sicrhau bod pawb y maen nhw’n rhyngweithio â nhw yn cael eu cynnwys yn deg, yn barchus ac mewn ffordd sy’n annog amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant
  • Eiriol dros yr iaith Gymraeg a hyrwyddo ei defnydd fel un o naw rhinwedd arbennig Eryri, gan gynnwys annog cydweithwyr eraill i ddatblygu eu medrau eu hunain
  • Ddilyn polisïau a gweithdrefnau’r Gymdeithas bob amser, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhai sy’n ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; salwch ac absenoldeb; iechyd a diogelwch; diogelu; a GDPR
  • Gymryd rhan mewn proses o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Ddefnyddio eu cerbyd eu hunain at bwrpas gwaith fel bo angen.

 Noder nad yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr.

BUDDION GWEITHIO I GYMDEITHAS ERYRI

  • Rydym yn gyflogwr gwir gyflog byw
  • Cyfraniad pensiwn cyflogwr o 6%
  • Cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith gyda gweithio hyblyg, ystwyth a diwylliant o ymddiriedaeth
  • Cyfleoedd ar gyfer gweithio o bell
  • Tanysgrifiad i raglen cymorth i weithwyr sy’n cynnwys mynediad at gymorth iechyd meddwl, gwasanaethau meddyg teulu a gostyngiadau i weithwyr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc yn codi ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
  • Telerau gwell ar gyfer absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhiant a rennir, yn amodol ar hyd gwasanaeth cymwys
  • Telerau gwell ar gyfer tâl salwch (ar ôl i’r cyfnod prawf ddod i ben)
  • Rydym yn annog ac yn cefnogi pob gweithiwr i ddilyn cyfleoedd datblygu
  • Y gallu i weithio yn yr awyr agored ym myd natur yn wythnosol

Darllenwch y manyleb unigolyn YMA

Amserlen

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9.00yb, dydd Llun 20 Gorffennaf 2026
Cyfweliadau: Dydd Mercher 12 Awst 2026

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd hon, lawrlwythwch y ffurflen gais YMA

Anfonwch eich cais at info@snowdonia-society.org.uk.