Rydym yn falch iawn o groesawu ein Cyfarwyddwr newydd i’r tîm.
Mae’n dod â chyfoeth o brofiad, brwdfrydedd ac angerdd cryf dros y sefydliad a’i ddyfodol. Rydym yn gyffrous iawn i’w gael yn rhan o’r tîm ac yn edrych ymlaen at gydweithio dros y blynyddoedd i ddod.
Ymunodd Graeme â Chymdeithas Eryri yn Mis Mai 2026, ar ôl gweithio cyn hynny fel Cyfarwyddwr Codi Arian a Phennaeth Strategaeth a Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth o arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn y sector amgylcheddol sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac, yn bwysicach fyth, mae’r ardal leol y mae ef a’i deulu ifanc yn ei galw’n gartref yn hynod o bwysig iddo.
Fel Cyfarwyddwr, mae gan Graeme gyfrifoldeb gweithredol cyffredinol am wireddu gweledigaeth Cymdeithas Eryri ar gyfer Eryri sy’n gyfoethog o ran byd natur i bawb, gan gynnwys gosod y Gymdeithas fel partner allweddol deinamig, gweithredol a dylanwadol yng ngwarchodaeth Parc Cenedlaethol mwyaf Cymru. Fodd bynnag, mae’n dibynnu ar ewyllys da a gwaith dygn tîm sefydledig o staff a gwirfoddolwyr – ac, wrth gwrs, aelodau a chefnogwyr Cymdeithas Eryri – ac mae’n hynod ddiolchgar i bob un ohonyn nhw!
Wedi’i eni a’i fagu yn ne Cymru, symudodd Graeme i’r gogledd i astudio ym Mhrifysgol Bangor yn 2003 ac nid yw erioed (wel, yn anaml) wedi dychwelyd. Gyda PhD mewn cerddoriaeth ac yn arbenigo ym mywyd a gwaith y gyfansoddwraig Gymreig Grace Williams, gellir ei ganfod o bryd i’w gilydd yn canu, yn cyfeilio neu’n chwifio ei freichiau o flaen corau lleol. Pan nad yw’n gwneud hynny, mae’n mwynhau botaneg amatur a cherdded yn Eryri a Bryniau Clwyd, ac mae’n ymddiriedolwr ei eglwys leol: ‘Gwreiddiau’, yn Ninbych.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk