Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar fin cymeradwyo’r cynllun ddydd Mercher nesaf er bod ymgyrchwyr yn dadlau ei fod yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru i amddiffyn safleoedd bywyd gwyllt allweddol
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn Eryri yn rhybuddio bod un o raeadrau mwyaf eiconig y Parc Cenedlaethol, Rhaeadr y Cwm uwchben Llan Ffestiniog, dan fygythiad oherwydd cynllun trydan dŵr a fyddai, ar adegau, yn gweld bron i 70% o’r dŵr yn cael ei ddargyfeirio allan o’r rhaeadr i mewn i bibell blastig. Y pryder yw y bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar ymddangosiad a sain daranllyd y rhaeadr, yn ogystal â newid yr amodau amgylcheddol yn sylfaenol. Mae’r ceunant yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a ddynodwyd oherwydd y rhywogaethau bregus y gellir eu gweld yno, gan gynnwys planhigion prin sy’n hoff o leithder. Gellir ei gyrraedd ar droed ar hyd lwybr hynafol, fel rhan o Lwybr Llechi Eryri ac nid yw’r argraffiadau cyntaf yn siomi.
Ar ôl i Senedd Cymru ddatgan Argyfwng Natur yn 2021, cryfhaodd Llywodraeth Cymru Bolisi Cynllunio yng Nghymru2 i egluro na ddylid cymeradwyo unrhyw ddatblygiad mewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac eithrio mewn ‘amgylchiadau cwbl eithriadol’. Nododd hefyd na fyddai hyn yn dderbyniol ond lle mae safbwynt cytunedig yn y cynllun datblygu yn nodi hyn. Fodd bynnag, mae’r Parc Cenedlaethol wedi dehongli hyn i olygu, os yw’r datblygiad ar gyfer ynni adnewyddadwy, yna mae hynny’n ei wneud o’n ‘hollol eithriadol’ ac felly y gall fynd yn ei flaen. Gallai hyn osod cynsail niweidiol i SoDdGA ledled Cymru.
Mae yna wrthwynebiad enfawr wedi bod i’r cynllun yn lleol ac yn ehangach ledled y wlad. Mae o leiaf 1,136 o bobl wedi gwrthwynebu’r cynllun yn ffurfiol. Mae hynny’n nifer enfawr o bobl i wrthwynebu un cais cynllunio3.
Mae clymblaid o bum grŵp amgylcheddol yn cydweithio i wrthwynebu’r cynllun hwn: Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Save our Rivers, Cymdeithas Eryri, Buglife, Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Plantlife a Chyngor Mynydda Prydain. Gyda’i gilydd, mae’r grwpiau hyn yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn galw am i’r cynllun gael ei ‘alw i mewn’, fel y gall Gweinidogion Cymru ei benderfynu yn unol â pholisi.
Dywed Jane Barbrook, Is-gadeirydd Cymdeithas Eryri: “Ymddengys bod ‘na ddiffyg yma. Gallwch amddiffyn coeden hynafol neu dŷ hanesyddol, ond nid yw’n ymddangos eich bod yn gallu amddiffyn rhaeadr, o ran ei phriodweddau gweladwy a’i sŵn.”
Mae Rory Francis o Gymdeithas Eryri yn ychwanegu: “Yr eironi enfawr yma yw bod rhaeadr eiconig ac un o brif safleoedd bywyd gwyllt Cymru yn cael ei fygwth am swm eithaf dibwys o ynni adnewyddadwy. Dim ond 600kW yw capasiti’r cynllun. Mae hynny’n golygu y byddai angen dim llai na 12 cynllun fel hyn i gynhyrchu cymaint o bŵer ag un tyrbin gwynt modern sengl ar y tir, fel y rhai a gynigir yn Y Bryn, rhwng Maesteg a Phort Talbot, a phob un ohonynt yn 7.2MW. Yn sicr, mae angen i ni symud i sero net, ond wrth wneud hynny, ddylen ni ddilyn canllawiau cynllunio ac amddiffyn ein safleoedd a’n tirweddau bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr.”
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk