Rydych chi wedi llwyddo! Codwyd dros £50,000 i amddiffyn Eryri

Rydych chi wedi llwyddo! Codwyd dros £50,000 i amddiffyn Eryri

Mae’r wythnos hon yn garreg filltir i Gymdeithas Eryri, oherwydd fe wnaethom ni gyflawni targed ein ‘Cronfa Ddyfodol 50 Mlynedd’ o godi £50,000, a hyd yn oed rhagori ar hynny, ar ôl i’r holl gyfraniadau gael eu cyfrif.  

Codwyd cyfanswm o £50,627, sy’n cynnwys cyfanswm o 315 o gyfraniadau. Cafwyd £26,650 anhygoel gan unigolion; pan ychwanegir Rhodd Cymorth, mae’r cyfanswm yn fwy na £30,000. Cafwyd cyfraniadau hael hefyd gan fusnesau a digwyddiadau lleol, yn cynnwys:

Dywedodd John Harold y Cyfarwyddwr: “Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyflawni ein targed o godi £50,000 ar gyfer Cronfa’r Dyfodol. Mae hyn yn rhyfeddol: mae’n dangos faint mae pobl yn gwerthfawrogi’r gwaith rydym yn ei wneud i warchod a gwella Eryri, ac yna anad dim, mae’n dangos pa mor bwysig yw dyfodol ein Parc Cenedlaethol anhygoel i bobl.” 

Hoffai Cymdeithas Eryri ddiolch o galon i’r holl unigolion, busnesau a sefydliadau a gyfrannodd tuag at Cronfa’r Dyfodol i ddathlu ein hanner canmlwyddiant. 

I ddarllen rhagor am Gronfa’r Dyfodol, cliciwch yma. 


Ydych chi’n hoffi darllen hwn? Gallwch chi hefyd gynorthwyo Cymdeithas Eryri trwy ymaelodi â ni, codi arian neu gyfranogi yn un o’n diwrnodau gwaith cadwraeth neu ddigwyddiadau niferus.

Comments are closed.