50 mlynedd wedyn ac mae ar Eryri eich angen chi o hyd

Helpwch ni i adeiladu Cronfa at y Dyfodol

Rydych chi wedi llwyddo! Darllenwch sut y codwyd dros £50,000 i amddiffyn Eryri

Cynnydd at ein targed o £50,000
101%

Y stori

Sut fyddai Eryri yn edrych erbyn hyn heb 50 mlynedd o wirfoddolwyr ac aelodau o Gymdeithas Eryri yn cyfrannu eu hamser a’u harian i ofalu am ac amddiffyn y mynyddoedd, y dyffrynnoedd a’r golygfeydd arbennig sydd mor annwyl i chi?

Ffensys weiren bigog yn lle waliau cerrig oherwydd nid oes neb yn gwybod sut i’w hailgodi? Coetiroedd wedi’u mygu gan rododendron? Mynyddoedd y gellir eu cyrraedd ond trwy droedio llwybrau troed erydog perygl? Afonydd wedi’u mygu gan fagiau silwair, rhwyd wifren a sbwriel? Diolch i chi a’n hymdrechion – 3,500 o oriau gan wirfoddolwyr yn 2016 – mae Eryri wedi osgoi’r gwaethaf o’r canlyniadau hyn.

Mae’n drueni na allwn ni ddweud, “Hwre! Mae natur a harddwch Eryri’n ddiogel. Mae’r holl drigolion, ymwelwyr a phobl sy’n gweithio yma yn eu caru ac yn gofalu amdanynt.” Ond 50 mlynedd wedyn ac mae ar Eryri angen ein gwaith a’ch cymorth yn fwy nag erioed!

Cyfrannwch cyn diwedd Ionawr 2018 a geith eich cyfraniad ei fatsio gan gefnogwr hael arall.

Rhaeadr y Graig Lwyd – buddugoliaeth i natur

Rydym ni wedi gweld bygythiad gwirioneddol i raeadrau a cheunentydd yn y cynlluniau ynghylch Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun – cynlluniau y gwnaethoch chi a ninnau helpu i’w trechu. Fodd bynnag, wrth atal y rhaeadr a’r ceunant arbennig hyn rhag cael eu gwagio, mae’r Gymdeithas wedi gwagio ei hadnoddau. Mae ymgyrch Rhaeadr y Graig Lwyd wedi costio dros £12,000 hyd yn hyn, ac yn y tymor byr, mae’r don o geisiadau ynghylch afonydd llai Eryri yn debyg o barhau, a bydd hynny’n fygythiad sylweddol i’w hiechyd a’n mwynhad ni ohonynt.

Diolch o galon am eich cyfraniad hael at ein hapêl Achubwch Afonydd Eryri, a gododd dros £5,300!

Heriau’r dyfodol

Ni allwn ni ragweld pa heriau a chyfleoedd a allai ddod i’r amlwg yn y 50 mlynedd nesaf. Effaith y newid yn yr hinsawdd a galwadau cynyddol i ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru? Twf graddol Eryri fel parc thema yn cynnig atyniadau i lifo adrenalin, a chenhedlaeth iau yn ymbellhau’n gynyddol oddi wrth y byd naturiol? Bygythiadau biolegol newydd i’n planhigion a’n hanifeiliaid cynhenid?

Helpwch ni i adeiladu Cronfa at y Dyfodol

I nodi ein hanner canmlwyddiant a sicrhau ein bod yn barod am y dyfodol dros y 50 mlynedd nesaf, rydym ni’n dymuno adeiladu Cronfa’r Dyfodol a wnaiff ganiatáu i ni ymateb yn gyflym ac yn hyderus i fygythiadau newydd – boed yn rhai ecolegol neu yn sgil gweithgarwch dynol – ac i gyfleoedd yn Eryri. Ein nod yw codi £50,000, gan ddenu cyfraniadau o ffynonellau amrywiol.

Byddai cyfraniad o £250 yn talu i ni archwilio ac ysgrifennu ymateb i gais cynllunio syml; byddai £28 yn talu am achredu gwirfoddolwr trwy ein huned newydd, Sgiliau Cadwraeth Ymarferol.

Dewch i ni wneud rhagor a’i wneud yn well. Dewch i ni rymuso a chydnabod ein gwirfoddolwyr. Dewch i ni ychwanegu at y profiad o ymgyrchu a gawsom ni yn 2016, a’ch diweddaru’n well am ein camau gweithredu. A dewch i ni sicrhau y bydd Eryri, ymhen 50 mlynedd, yn lle sy’n cael ei garu’n well, ei werthfawrogi’n well a’i fwynhau yn well gan bawb.

Cyfrannwch nawr

a helpwch ni i ddatblygu ein cronfa fel gallwn ni fod yn barod am y dyfodol!

Cofion cynnes,
John Harold,
Cyfarwyddwr

———

Comments are closed.