5X7A5435-Large

Tŷ Hyll

Perchennog Tŷ Hyll yw Cymdeithas Eryri.

Mae ein gardd a’n coedlan yn agored drwy gydol y flwyddyn. Codwch daflen o’r stand y tu mewn i’r giât ac ewch i fforio! Cynhelir yr ardd deras yn Nhŷ Hyll gan wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri, a dewiswyd y planhigion yn arbennig i ddenu peillwyr. Chwiliwch am fainc yn yr haul a gwrandewch ar yr adar. Os byddwch yn ddistaw iawn efallai y cewch gipolwg ar lygoden bengron yn dwyn hadau sydd wedi cwympo o’r bwydwyr adar!

Mae’r coedlannau derw lled-naturiol hynafol yn ymestyn hyd at oddeutu pedair erw. Dyma goedwig hyfryd o dawel i dreulio hanner awr, neu hyd yn oed pum munud. Yn ogystal â derw digoes, mae yma goed bedw, ynn, criafol, celyn a chyll. Mae’r coed wedi eu gorchuddio â mwsogl ac mae llawredyn yn tyfu o’r canghennau. Yn hwyr yn yr haf a’r hydref rydych yn debygol o weld ein ffwng amrywiol yn tyfu ar ganghennau wedi cwympo a bonion coed. Piciwch i lawr at y pwll, lle byddwch o bosib yn ddigon ffodus i weld grifft llyffant neu lyffant. Cofiwch chwilio am y cychod gwenyn yn rhan ucha’r goedlan, a’r cylch o seddau sy’n fan dymunol i eistedd a mwynhau caneuon y gwahanol adar.

Rydym yn freintiedig gan fod yr aderyn mudol, y gwybedog brith, yn dychwelyd i goedlan Tŷ Hyll pob haf i nythu yma ac mae ystlumod lleiaf yn clwydo yn y tŷ.