Peri yw ein Swyddog Datbly, a hi sy’n gyfrifol am recriwtio aelodau newydd amrywiol, aelodau busnes, cefnogwyr a gwirfoddolwyr, fel ein bod yn gallu parhau i gael dylanwad positif. Mae hi hefyd yn cynorthwyo gyda datblygu a gwireddu rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus i ehangu proffil y Gymdeithas. Mae Peri yn gweithio ar adnabod a datblygu ffrydiau nawdd a chodi arian newydd a ffynonellau refeniw posibl eraill i gefnogi gwaith y Gymdeithas.
Yn ei hamser hamdden mae Peri’n hoffi dringo creigiau, nofio yn ein llynnoedd neu gerdded mynyddoedd. Mae hi hefyd yn mwynhau peintio, gan ddefnyddio olew acrylig ar gynfas a pheintio ambell i furlun. Wedi byw yng ngogledd Cymru ar hyd ei hoes, mae gwaith celf Peri wedi ei ysbrydoli gan fyd natur a golygfeydd lleol, yn benodol y rhai sydd yn Eryri. Mae hi wrth ei bodd yn ymgorffori ei syniadau a’i dyluniadau creadigol yn ei rôl gyda’r Gymdeithas pob cyfle mae hi’n ei gael!
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk