Mary Williams

Swyddog Cadwraeth

Mary yw Swyddog Cadwraeth i Gymdeithas Eryri. Mae ei gwaith yn cynnwys cynnal dyddiau gwaith cadwraeth ymarferol i wirfoddolwyr, mewn cydweithrediad â chyrff cadwraeth eraill sy’n gweithio’n ymarferol i warchod Eryri a’i bywyd gwyllt.

Symudodd Mary i ogledd Cymru o Sir Benfro ychydig o flynyddoedd yn ôl ac mae hi wrth ei bodd yma. Mae hi bob amser wrth ei bodd yn crwydro’r mynyddoedd, er mai cerdded yn hytrach na rhedeg sy’n mynd â’i bryd!

Mae ei chefndir ym myd addysg ac mae hi wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Symudodd i faes gwaith cadwraeth drwy gyfrwng timau wardeniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Benfro ac yn Ogwen a bu’n rhan o dîm Cymdeithas Eryri ers 2019.

Mae Mary wrth ei bodd yn cyfarfod pobl ac mae hi’n siŵr o sgwrsio efo chi mewn digwyddiad gwirfoddolwyr. Bydd hefyd, mae’n debyg, yn enwi blodyn neu’n rhoi ffaith difyr i chi am y lleoliad neu’r bywyd gwyllt.

Gallwch gysylltu â Mary ar mary@snowdonia-society.org.uk