Oni bai ein bod yn gweithredu’n gyflym bydd un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri yn cael ei difrodi am byth

Y newyddion brawychus yw bod datblygwyr wedi cyflwyno cais cynllunio i adeiladu argae ar Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog a dargyfeirio cymaint â 70% o’r dŵr sydd ar gael o amgylch rhaeadr eiconig Rhaeadr y Cwm, fel rhan o gynllun trydan dŵr. .

Dair gwaith dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae cynlluniau wedi eu cyflwyno ar gyfer cynllun trydan dŵr yng Nghwm Cynfal. Dair gwaith maent naill ai wedi cael eu gwrthod neu eu tynnu’n ôl. Ond ym mis Gorffennaf fe gyflwynodd y datblygwyr gais arall. Y dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebiadau yw 20 Medi.

Ie, mi wnaf i helpu! Dwi eisiau codi fy llais yn erbyn y cynllun

Darlun o’r rhaeadr gan David Cox

Lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd

Mae Cwm Cynfal yn lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd dros fileniwm. Dyma un o raeadrau mwyaf mawreddog Eryri. Ond nawr mae’n cael ei bygwth unwaith eto gan gynllun trydan dŵr a fyddai’n gweld argae ar yr afon a chymaint â 70% o’r dŵr sydd ar gael yn cael ei ddargyfeirio allan o’r rhaeadr.

Mae’r ceunant wedi’i warchod yn fawr dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt. Mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o fewn Parc Cenedlaethol. Mae wedi’i ddynodi’n rhannol oherwydd y mwsoglau a llysiau’r afu prin sy’n tyfu yno. Os byddwch chi’n dargyfeirio cymaint â hynny o ddŵr allan o’r rhaeadr, fydd hynny’n newid yr amodau gwlyb iawn sy’n gwneud y ceunant mor arbennig.

Rydym yn pryderu am ymddangosiad gweledol, sain ac awyrgylch y rhaeadr, y bywyd gwyllt sy’n byw yn y ceunant a hefyd y difrod i’r safle hanesyddol iawn hwn gyda’i lwybrau canoloesol.

Rydym yn cefnogi’n gryf yr angen i ddatgarboneiddio’r economi. Ond gydag unrhyw gynllun ynni adnewyddadwy, mae’n rhaid i chi bwyso a mesur y difrod yn erbyn y buddion. Cymharol ychydig o drydan fyddai’r cynllun hwn yn ei gynhyrchu, digon i bweru dim ond 60 o ‘power showers’ trydan. Byddai ei gapasiti o 600kW dim ond tua 8% o ddim ond un o’r tyrbinau 7.2MW yn fferm wynt arfaethedig Y Bryn rhwng Maesteg a Phort Talbot.

Mi fedrwch chi helpu i amddiffyn y rhaeadr

Cynhaliodd y datblygwyr eu hunain ymgynghoriad cyn cyflwyno’r cais ddiwedd y flwyddyn diwethaf. Mae’r ymateb i hwnnw, sydd wedi’i gynnwys fel rhan o’r cais cynllunio, yn cadarnhau nad yw’r mwyafrif helaeth o’r rhai a gymerodd ran yn cefnogi’r cynllun. Er ei bod yn anodd tynnu’r ffigurau o’r papur a gyflwynwyd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, fe gymerodd 359 o unigolion neu sefydliadau ran yn yr ymgynghoriad. Nododd 276 nad oeddent yn cefnogi’r cais. Roedd 181 o’r gwrthwynebwyr hyn yn lleol i Barc Cenedlaethol Eryri, Gwynedd neu Ogledd Cymru. Dim ond 3 o bobl neu fudiadau a nododd eu bod yn cefnogi’r datblygiad.

Yn ogystal, mae’r sefydliadau cadwraeth Save our Rivers, Buglife ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i gyd yn gweithio gyda ni i wrthwynebu’r cynlluniau hyn. A wnewch chi helpu’r ymgyrch drwy anfon llythyr ffurfiol o wrthwynebiad i’r cais cynllunio?

Rory Francis
Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri Cymdeithas Eryri

Ie, mi wnaf i helpu! Dwi eisiau codi fy llais yn erbyn y cynllun

Comments are closed.