Rydym yn chwilio am Cyfarwyddwr newydd

CYMDEITHAS ERYRI

RYDYM YN CHWILIO AM GYFARWYDDWR NEWYDD
BRIFF RECRIWTIO A MANYLION SUT I YMGEISIO

Cyflwyniad

Diolch am eich diddordeb yn rôl Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri.

Elusen aelodaeth yw ein elusen ni a fydd, y flwyddyn nesaf, yn dathlu 60 mlynedd o wneud gwahaniaeth drwy warchod a diogelu tirweddau cyfoethog, amrywiol a gwerthfawr Eryri.

Rydym yn falch o’n cyflawniadau niferus dros y degawdau ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y rhain wrth i heriau newid hinsawdd a’u heffaith ar fyd natur a chymunedau waethygu. Fodd bynnag, rydym ar groesffordd ar hyn o bryd ar ôl colli sawl aelod profiadol o staff ac mae’r rôl hon yn gyfle gwych i ailosod strategaeth a’n lle fel partner allweddol deinamig, gweithredol a dylanwadol yng nghadwraeth Parc Cenedlaethol mwyaf Cymru. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y weledigaeth, y medrau a’r dygnwch sydd eu hangen i adfywio ein gweithrediadau, ein partneriaethau a’n tîm staff, sicrhau strategaeth ariannol ac ailadeiladu aelodaeth, gan roi Cymdeithas Eryri ar y trywydd iawn i barhau fel chwaraewr allweddol wrth ddiogelu’r dirwedd a’r dreftadaeth unigryw hon.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n rhannu ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol ac sydd â hanes profedig o arwain ac ysbrydoli pobl i ymuno â’n hymdrechion wrth fynd ar drywydd byd natur i bawb ac sy’n gallu cyflawni’r rolau a’r cyfrifoldebau a amlinellir isod.

Os oes gennych y medrau, y rhinweddau a’r profiad, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ac yn gobeithio y cewch eich ysbrydoli i wneud cais.

Amdanom ni

Nod

Ein nod fel elusen yw hyrwyddo a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri a hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, sy’n gweithio neu sy’n ymweld â’r ardal nawr ac yn y dyfodol.

Gweledigaeth

  • ysbrydoli mwy o bobl i weithredu’n gynaliadwy i gefnogi Eryri sy’n fwy cyfoethog o ran byd natur y gall pawb gysylltu â hi, ei dathlu a’i gwerthfawrogi
  • gwneud Eryri yn esiampl ar gyfer rheoli tirweddau dynodedig yn gynaliadwy lle mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn weithgar wrth sicrhau bod tirwedd, diwylliant a’r dirwedd hanesyddol yn cael eu gwerthfawrogi, eu gwarchod a’u mwynhau
  • wrth ysbrydoli mwy o bobl i ddod yn fwy gweithredol rydym yn cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid eraill, sefydliadau gwirfoddol, aelodau, staff a gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri, y gymuned fusnes a’r cyhoedd ehangach

Prif weithgareddau

Mae ein prif weithgareddau’n cynnwys codi arian i ddenu rhoddion a grantiau, gwasanaethu ein haelodau o tua 900 o unigolion, gweithio gyda sefydliadau eraill fel yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol a Chynghrair y Tirweddau Dynodedig i gefnogi polisïau a blaenoriaethau ymgyrchu ac eiriolaeth rhanbarthol a chenedlaethol. O fewn Eryri rydym yn gwarchod rhag ceisiadau cynllunio amhriodol ac yn eiriol ac yn ymgyrchu ar faterion lleol.

Mae ein gwaith ymarferol yn cael ei wneud trwy ddarparu ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n gwella’r dirwedd ac yn galluogi rhyngweithio â’r cyhoedd a chyfleu negeseuon allweddol am sbwriel a chadw at lwybrau. Mae ein ffocws ar adfer byd natur trwy gyfrwng ein carfan fawr o wirfoddolwyr sy’n ein galluogi i fynd i’r afael â lledaeniad rhywogaethau anfrodorol, plannu coed a helpu gydag adfer mawn.

Mae gweithio’n effeithiol trwy gyfrwng ein partneriaid a’n rhanddeiliaid mewn ffordd effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod ein holl adnoddau’n gweithio i gael yr effaith fwyaf posibl.

Am ragor o wybodaeth a dogfennau gweler ein gwefan www.snowdonia-society.org.uk

Disgrifiad Rôl Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri

Mae’r Cyfarwyddwr yn adrodd i Gadeirydd y Bwrdd gan weithio ar y cyd â’r Ymddiriedolwyr, partneriaid allweddol yn Eryri a staff, gyda chyfrifoldeb dirprwyedig am ddatblygu strategaeth a chyflawni cynlluniau gweithredol blynyddol sy’n gwella effaith.

Bydd y Cyfarwyddwr yn meithrin perthnasoedd yn rhagweithiol gydag ystod eang ac amrywiol o bartneriaid a rhanddeiliaid i hyrwyddo enw da a dylanwad Cymdeithas Eryri er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol at ddadleuon lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ynghylch sut i amddiffyn un o dirweddau mwyaf gwerthfawr y DU, sy’n derbyn nifer uchel o ymwelwyr, a sicrhau newid trwy eiriolaeth ac ymgyrchoedd.

Bydd y Cyfarwyddwr yn sicrhau’r safonau llywodraethu uchaf trwy bolisïau a gweithdrefnau wedi’u diweddaru a rheolaeth ariannol a sefydlogrwydd a chynaladwyedd ariannol.

Cyfrifoldebau allweddol

  • Arwain trwy esiampl gan adlewyrchu gwerthoedd Cymdeithas Eryri ym mhopeth a wnewch • Arwain ar werthusiad canol tymor o’r strategaeth bresennol i asesu effeithiolrwydd ein dull o fynd i’r afael ag eiriolaeth, ymgyrchu, dylanwadu ar bolisi, gwaith cadwraeth ymarferol, cydweithio mewn partneriaeth, aelodaeth, codi arian a chyfathrebu
    • Cynllunio a gweithredu strategaeth ar y cyd â’r Ymddiriedolwyr sy’n cynnwys proses newid gynhwysol sy’n canolbwyntio ar dîm i sicrhau bod staff ac adnoddau wedi’u halinio, wedi’u canolbwyntio a’u cymell
    • Datblygu a chyflwyno cynllun busnes gweithredol sy’n ymgorffori pob agwedd ar ein gwaith ac sy’n cael ei adrodd yn chwarterol i’r Bwrdd gan amlygu unrhyw gamau gweithredu a phenderfyniadau angenrheidiol
    • Sicrhau ein cynaladwyedd ariannol parhaus a bod pob system a phroses ariannol yn darparu gwybodaeth fanwl gywir ac amserol ar gyfer pob incwm a gwariant trwy adrodd clir, gan gynnwys rheoli risg
    • Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda phartneriaid allweddol a rhanddeiliaid sy’n canolbwyntio ar feysydd o fudd a diddordeb cyffredin
    • Creu, cynnal a rheoli ein tîm o staff i gyflawni yn erbyn y cynllun busnes gweithredol a’r gyllideb, gan wneud gwelliannau lle bo angen
    • Sicrhau bod pob polisi a gweithdrefn yn gyfredol
    • Gweithio ar y cyd â’r Bwrdd i sicrhau bod pob agwedd ar lywodraethu da yn bodloni’r safonau cyfreithiol priodol, yn cael eu cynnal a’u gwella
    • Gwella ein proffil cyhoeddus a’n dyhead i ysbrydoli llawer mwy o bobl i ofalu mewn unrhyw ffordd y gallant am ddiogelwch parhaus tirweddau gwerthfawr Eryri, a’u cefnogi

Manylion unigolyn

Dylech allu dangos a darparu tystiolaeth o’r meini prawf canlynol a restrir isod, a fydd yn cael eu profi a’u harchwilio ymhellach os cewch eich gwahodd i gyfweliad.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, dylech fod â:

  • Hanes profedig o arweinyddiaeth strategol lwyddiannus
  • Graddfa uchel o wybodaeth a dealltwriaeth o’r materion a’r heriau sy’n wynebu tirweddau dynodedig
  • Angerdd, egni ac ysgogiad i fwrw ymlaen â gweledigaeth o lwyddiant yn y dyfodol mewn dull sydd wedi ei ganolbwyntio ac sy’n drefnus
  • Tystiolaeth o eiriolaeth, dylanwadu a/neu ymgyrchu llwyddiannus
  • Profiad amlwg o ddatblygu perthnasoedd strategol a gweithio ar y cyd ac yn effeithiol trwy bartneriaethau a rhwydweithiau
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i wrando, hysbysu, ymgysylltu a dylanwadu ar ystod amrywiol o gynulleidfaoedd gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a chyfryngau cymdeithasol
  • Rheoli cynhyrchu incwm, rheoli ariannol a rheoli risg
  • Tystiolaeth a dealltwriaeth o lywodraethu a phrofiad llwyddiannus o weithio gyda Bwrdd
  • Hanes o arweinyddiaeth fedrus a hwylusol gyda phrofiad o reoli newid ac adeiladu, llunio a chymell tîm
  • Rheolwr pobl medrus sy’n gallu cefnogi, datblygu a dirprwyo ac yn gallu ymdopi ag adegau o densiwn a gwrthdaro a chyrraedd consensws
  • Yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg

Telerau ac amodau

  • £47,000-£55,000 pro rata
  • Contract 0.8 Cyfwerth Amser Llawn (FTE) o 2 flynedd gyda chyfle i drosi i barhaol trwy gytundeb ar y cyd ar ddiwedd y tymor
  • Cyfraniad pensiwn cyflogwr o 6%
  • Gweithio hyblyg gyda’r gallu i addasu yn y Caban, LL55 3NR ac o gartref
  • Tanysgrifiad i raglen gymorth i weithwyr sy’n galluogi mynediad at gymorth iechyd meddwl a gwasanaethau meddyg teulu
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata ynghyd â gwyliau banc
  • Telerau mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu uwch

 

Amserlen

 

  • Hysbyseb swydd yn mynd yn fyw 19 Ionawr 2026
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 15 Chwefror 2026
  • Cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer i’w cynnal yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 23 Chwefror 2026

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, lawrlwythwch y ffurflen gais yma.

Yn ogystal, atodwch CV cynhwysfawr o ddim mwy na 2 dudalen yn nodi manylion eich cyflawniadau mewn perthynas â’r rolau a’r cyfrifoldebau a amlygwyd uchod a chynnwys datganiad ategol gyda thystiolaeth o sut rydych chi’n bodloni pob un o’r meini prawf a nodir yn y manylion unigolyn gydag enghreifftiau yn egluro’r hyn a gyflawnwyd gennych yn erbyn nodau’r sefydliad.

Anfonwch eich cais i info@snowdonia-society.org.uk