Na i beilonau newydd drwy’r Parciau Cenedlaethol!

Rhowch wybod i’ch Aelodau’r Seneddol lleol eich bod chi ddim eisiau gweld llinell newydd o beilonau yn torri trwy harddwch mynyddoedd Eryri.

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru dan fygythiad. Mae’r National Energy Systems Operator, NESO, sy’n rhedeg y Grid Cenedlaethol, yn bwriadu creu cysylltiad tensiwn uchel newydd yr holl ffordd o Fangor i Abertawe.

  • Gallai hyn dorri drwy Barciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog yn ogystal â Mynyddoedd Cambria.
  • Yn ôl rheolau y Grid Cenedlaethol ei hun, ni ddylai hyn ddigwydd. Mae Rheolau Holford y Grid Cenedlaethol yn dweud y dylai llinellau uwchben foltedd uchel newydd osgoi Parciau Cenedlaethol yn gyfan gwbl os yn bosibl.
  • Crëwyd Parciau Cenedlaethol i warchod ardaloedd o gefn gwlad hardd sy’n cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd, gan alluogi pawb i gael mynediad i gefn gwlad. Llefydd i’r enaid gael heddwch. Rydan ni’n credu y byddai adeiladu llinell beilonau newydd drwy Eryri a Bannau Brycheiniog yn fradychu’r egwyddorion hyn.
  • Mae claddu llinellau tensiwn uchel drwy Barciau Cenedlaethol yn opsiwn, ond gall hyn fod yn ddrud ac yn niweidiol i’r amgylchedd.
  • Rydym yn cefnogi’r angen i uwchraddio’r grid i’w alluogi i ymdopi â’r newid i ffynonellau cynhyrchu trydan glân ac adnewyddadwy.
  • Mae cynlluniau NESO ar draws y DU gyfan yn cynnwys nifer o geblau tanddwr, rhwng yr Alban a Chymru, yr Alban a Lloegr a Lloegr gyda Lloegr.
  • Felly, rydym yn galw ar NESO i ddatgan yn glir mai’n opsiwn maen nhw’n ffafrio yw cyswllt o dan y môr o amgylch gorllewin Cymru, yn amodol ar asesiad amgylcheddol boddhaol o’r effeithiau ar fywyd morol.

Mae’r ymgyrch hon yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Cymdeithas Eryri, Cynghrair Tirweddau Dynodedig Cymru, Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol, Cyfeillion Bannau Brycheiniog, Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a’r BMC. Mae safbwynt Cynghrair Tirweddau Dynodedig Cymru ar y mater yma.

A wnewch chi gefnogi ein hymgyrch, trwy ysgrifennu at eich Aelod Senedd i ofyn iddynt gefnogi’r ymgyrch hon? Fe allan nhw wneud hynny trwy arwyddo y Datganiad Barn yma yn y Senedd.

Gwnaf. Mi wnaf i ysgrifennu at fy Aelod Seneddol. Cliciwch yma!

Eisiau gwybod rhagor?

Beth yw cynlluniau NESO

Wedi’u hamlinellu yn y ddogfen Beyond 2030, mae’r cynlluniau hyn yn gynllun i uwchraddio’r Grid Cenedlaethol, i’w baratoi i ymdopi â’r cynnydd enfawr mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a fydd yn angenrheidiol i gyflawni ein hymrwymiadau Sero Net.

Beth yw Rheolau Holford?

Wedi’u mabwysiadu gyntaf yn ôl ym 1959, mae’r rhain yn rhoi canllawiau ar sut y dylid cynllunio llinellau trydan uwchben. Mae rheol rhif un yn darllen:

“Osgowch yn gyfan gwbl, os yn bosibl, y prif ardaloedd o werth amwynder uchaf, trwy gynllunio llwybr cyffredinol yn y lle cyntaf, hyd yn oed os yw cyfanswm y milltiroedd yn cynyddu rhywfaint o ganlyniad.”

Mae’r paragraff nesaf yn egluro bod yr ardaloedd o werth amwynder uchaf yn cynnwys Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

A yw hyn yn ymarferol?

Ydy. Mae’r ddogfen Beyond 2030 eisoes yn cynnwys nifer o ddarnau o linell tensiwn uchel o dan y môr. Mae hyn yn dangos bod cysylltiadau trydan o dan y môr yn ymarferol ac yn fforddiadwy a’u bod yn aml yn darparu’r opsiwn ymarferol gorau ar y cyfan. Yn wir, efallai y bydd manteision sylweddol o wneud hyn. Gallai cyswllt o’r fath ar y môr ddod yn hynod ddefnyddiol wrth gysylltu ffermydd gwynt ar y môr â’r grid. Byddai hyn yn osgoi’r angen i bob fferm wynt gael ei chebl ar wahân ei hun i’r lan.

A ydych chi’n gwadu newid yr hinsawdd?

Nac ydyn, rydyn ni’n cefnogi’r newidiadau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Rydym wedi egluro yn yr e-ymgyrch hwn ein bod yn cefnogi’r angen i uwchraddio’r grid i ymdopi â’r angen i gynhyrchu mwy o lawer o ynni adnewyddadwy a fydd yn angenrheidiol i gyflawni ein rhwymedigaethau Net Sero. Ond y cwestiwn yw, sut?

Onid yw’n bwysig amddiffyn y moroedd yn ogystal â’r tir?

Ydy, yn sicr. Wrth gwrs, mae manteision amlwg i ddewis llwybr o dan y môr, lle na fydd y cyhoedd yn ei weld. Dyna pam rydyn ni’n galw ar NESO egluro mai’r opsiwn maen nhw’n ffedrio yw cyswllt o dan y môr o amgylch gorllewin Cymru, yn amodol ar asesiad amgylcheddol boddhaol ar yr eiffeithiau ar fywyd morol. Mae Bae Aberteifi ac ardaloedd eraill o Fôr Iwerddon wedi’u diogelu’n gwbl briodol ac mae’n debyg bod llwybrau mwy a llai niweidiol ar gyfer cysylltiad grid o dan y dwr rhwng Bangor ac Abertawe. Rydyn ni eisiau gweld asesiad amgylcheddol trylwyr i adnabod yr opsiwn gorau, fel y gellir pwyso a mesur hynny yn erbyn yr hyn yr ydym yn gwybod fyddai’r opsiynau hynod niweidiol petai’n mynd trwy Barc Cenedlaethol Eryri.

A fyddai cyswllt tanddwr yn agored i ymyrraeth gan wlad dramor elyniaethus?

Mae hyn, wrth gwrs, yn bryder. Fodd bynnag, mae cynlluniau NESO eisoes yn cynnwys nifer o gysylltiadau o dan y môr, o dyrbinau gwynt ar y môr i’r lan a hefyd yn cysylltu’r Alban â Chymru, yr Alban â Lloegr a Lloegr â Lloegr. Os ydyn ni’n gallu amddiffyn y rhain, yna rydym yn gallu amddiffyn cyswllt rhwng Bangor ac Abertawe.

Pam fod Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yn bwysig?

Mae Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (a elwid gynt yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) ymhlith y mannau gwyllt mwyaf arbennig sydd gan Gymru i’w cynnig. Mae’n hawdd gweld pam fod’r lleoedd hyn yn cael effaith mor barhaol ar ymwelwyr a’r rhai sy’n eu byw yma. Mae Parciau Cenedlaethol yn caniatáu i bobl gyffredin gael mynediad i gefn gwlad agored wrth gadw a gwella harddwch naturiol. Fe gawson nhw eu sefydlu ar y ddealltwriaeth bod cysylltiad â natur yn hanfodol i iechyd pobl, cymdeithas a’r blaned.

Byddai caniatáu i ddarnau helaeth o dirwedd dilychwin, llawer ohono’n fynyddig, gael eu difetha gan linellau newydd o beilonau, yn amlwg yn peryglu eu cymeriad arbennig. Rydyn ni’n credu y dylai adeiladu llinelli tensiwn uchel newydd fod yn opsiwn olaf, nid yr opsiwn cyntaf.

Gaf i addasu y llythyr drafft sy’n cael ei awgrymu?

Cewch, siwr! Mi fedrwch chi ei ddileu ac ysgrifennu un gwahanol, yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu ychwanegu rhyw ffrawddeg bersonol ar y diwedd. Cofiwch fod y fersiwn ddrafft yn cynnwys y geiriau hyn ar y diwedd: “On a personal note I would like to add…” Os nad ydych chi eisiau ychwanegu eich sylwadau eich hun, cofiwch ddileu hwn.

Ar ôl i mi gymryd rhan yn yr e-weithredu, rwy’n gweld neges yn gofyn i mi wneud cyfraniad ariannol. Oes rhaid i mi wneud hyn?

Nac oes, mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim a gall unrhyw un yng Nghymru wneud hynny. Rydym wedi creu cyfrif am ddim gyda’r cwmni New Mode, sy’n rhedeg gwefan yr e-weithredu. O ganlyniad, mae rhaid inni gynnwys tudalen yn gofyn i bobl gyfrannu. Gan fod y cwmni yn gweithio’n rhyngwladol, mae’n son am wneud hyn mewn doleri. Os hoffech chi gefnogi’r ymgyrch ac os gallwch fforddio gwneud hynny, byddem yn eich annog i wneud cyfraniad, gan y bydd New Mode yn defnyddio rhywfaint o’r arian a gesglir i hyrwyddo’r ymgyrch i bobl eraill.

Beth arall allaf i ei wneud i helpu?

Y peth mwyaf defnyddiol y gallwch ei wneud i helpu cefnogi’r ymgyrch hon, heblaw anfon e-bost at eich Aelodau Seneddol, yw lledaenu’r gair i’ch ffrindiau. Ar ôl i chi gwblhau’r e-weithredu, fe welwch fotwm “Share instead”. Cliciwch hwn i rannu’r ymgyrch ar unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol rydych chi’n eu defnyddio. Ac wrth gwrs, byddem yn eich annog i ddweud wrth eich ffrindiau am hyn a’u hannog i gymryd rhan. Os nad ydych yn aelod o’r Gymdeithas yn barod, y peth mwyaf defnyddiol allech chi wneud fyddai ymaelodi a’r Gymdeithas. Mae’n costio llai na £3 bob mis a thrwy wneud hyn, fyddech chi’n cefnogi nid yn unig ein gwaith ymgyrch fel hyn, ond hefyd ein gwaith cadwraeth ymarferol. Allwch chi wneud hyn yma.

Dwi ddim yn byw yng Nghymru. Gaf i gymryd rhan?

Rydym yn trefnu’r ymgyrch hon i geisio cael cymaint o aelodau’r Senedd â phosibl i lofnodi’r Datganiad Barn am y peilonau arfaethedig drwy’r Parciau Cenedlaethol. Felly gall unrhyw un sydd â chyfeiriad yng Nghymru gymryd rhan. Os nad ydych chi’n byw yng Nghymru, nid oes gennych chi unrhyw un yn eich cynrychioli yn y Senedd, felly ni allwch chi gymryd rhan. Yn ddiweddarach, yn dibynnu ar sut mae’r ymgyrch hon yn mynd, efallai y byddwn ni’n trefnu ymgyrch debyg yn San Steffan, a bydd pawb yn y DU yn gallu cymryd rhan yn hynny.

Os ydych yn byw yng Nghymru, a wnewch chi gymryd rhan yn yr ymgyrch hon?