Fydd ein gwirfoddolwyr ymroddedig yn mento allan drwy gydol y gwanwyn, yr haf a’r hydref, yn mynd i’r afael â phroblem Llygredd Un-tro. Ond mae yna fwy i hyn na dim ond symud sbwriel sydd wedi’i ollwng yn barod. Mae’n bwysig i weithio gyda’r cyhoedd i geisio newid ymddygiad ac osgoi’r broblem yn y lle cyntaf, a hefyd galw am newidiadau yn y ffordd rydym yn byw, fel cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes ar boteli a chaniau diodydd, a allai leihau lefelau sbwriel yn sylweddol.
Dros yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn gweithio gyda’r cyfryngau i gyfleu’r neges allweddol hon, gan weithio gyda’n partneriaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Plantlife, Trash Free Trails, y BMC ac eraill. Daeth Chris Dearden o BBC Cymru gyda ni ar ddigwyddiad Caru Eryri arbennig yr wythnos diwethaf a fe gynhyrchodd o becyn gwych o eitemau teledu a radio a straeon gwefan am ein gwaith, a gafodd ei ddarlledu dros y penwythnos diwethaf. Roedd y stori i’w chlywed ar BBC Radio 2 a 6 Music, hyd yn oed. Gallwch weld stori am hyn ar wefan y BBC yn Gymraeg neu’n Saesneg. Gallwch hefyd glywed ein Cyfarwyddwr Rory Francis yn trafod y Cynllun Dychwelyd Ernes arfaethedig ar boteli a chaniau diodydd yma, am 28:30 i mewn.
Y diwrnod cynt, cawsom gyfle i gyfrannu at yr eitem hon ar newyddion Channel 5, ar y problemau a achosir gan or-dwristiaeth a’r angen i wneud twristiaeth yn Eryri yn wirioneddol gynaliadwy.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk