Am Gymdeithas Eryri:
Mae Eryri yn lle arbennig sy’n llawn cynefinoedd a bywyd gwyllt o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Mae newid hinsawdd a’r argyfwng natur byd-eang yn golygu bod angen amddiffyn Eryri nawr yn fwy nag erioed o’r blaen. Dyna’n gwaith ni – ni yw’r unig elusen sy’n bodoli’n unig i amddiffyn a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein tîm ymroddedig o staff, ymddiriedolwyr, aelodau a gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Eryri a’i gynefinoedd a’i fywyd gwyllt yma am byth.
Mae cadwraeth ymarferol yn elfen sylweddol o’n gwaith, ac mae angen rhywun arnom i ymuno â’n tîm i arwain a chydlynu ein rhaglen amrywiol yn y dyfodol. Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid ar dasgau fel plannu coed, rheoli rhywogaethau ymledol a rheoli cynefinoedd i enwi ond ychydig. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos iawn ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored ar ein rhaglen wirfoddoli flaenllaw Caru Eryri.
Rydym yn chwilio am aelod newydd o’r tîm. Ydych chi’n unigolyn trefnus a brwdfrydig gyda llygad am fanylion a phrofiad o ddefnyddio cronfeydd data TG, cyfathrebu â’r cyhoedd a darparu cefnogaeth yn gyflym ac yn effeithlon? Os felly, fe allai’r swydd hon fod yn berffaith i chi.
Disgrifiad Rôl: Swyddog Gwirfoddolwyr
Oriau: 37.5 awr/wythnos
Cyflog: £26,000-£27,000 yn dibynnu ar brofiad?
Adrodd i: Rheolwr Cadwraeth
Adroddiadau uniongyrchol: Dim
Manteision gweithio gyda ni:
Manyleb person:
Rydym yn chwilio am rywun a fydd:
Prif gyfrifoldebau
Cyfrifoldebau eraill:
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rory Francis ar director@snowdonia-society.org.uk.
Sylwch mai dim ond ceisiadau a gwblheir gan ddefnyddio ein Ffurflen Gais Safonol y gallwn eu derbyn
Dylid anfon pob cais at info@snowdonia-society.org.uk erbyn 24 Tachwedd.
Cynhelir cyfweliadau ar neu o gwmpas 3 Rhagfyr.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk