Oes gennych chi offer/dillad awyr agored nad ydych yn eu defnyddio ar gyfer eu hailgylchu?
Byddwn yn y digwyddiad Ultra-Trail Eryri, UTMP yn Llanberis ar 10 ac 11 Mai i ledaenu’r gair am ein gwaith a chodi arian drwy gyfrwng stondin ddillad ac offer ail law.
Os oes gennych chi offer a dillad awyr agored nad ydych yn eu defnyddio erbyn hyn, byddem yn falch iawn pe baech yn fodlon eu rhoi i ni! Rydym yn chwilio am hen gotiau, dillad o ansawdd da, cit gwersylla, sachau cysgu, offer nofio awyr agored, esgidiau cerdded ac unrhyw offer antur arall mewn cyflwr rhesymol. Oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch ni fyddwn yn derbyn rhaffau, helmedau a charabinerau.
Os allwch chi ddod ag eitemau draw i’n swyddfa yng Nghanolfan a Chaffi Cymunedol y Caban ym Mrynrefail byddem yn wir werthfawrogi hynny.
Bydd unrhyw arian a gawn wrth eu gwerthu yn mynd tuag at ein gwaith parhaol ledled Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk