Yn gynharach y mis hwn derbyniodd Gymdeithas Eryri gyfraniad hael oddi wrth yr aelod tymor hir Richard Bridges er cof am ei fodryb hoff Marie (llun isod) a fu farw y llynedd.
Ymunodd Richard â Chrwydro’r Carneddau y Gymdeithas ym mis Ebrill a soniodd wrth y Swyddog Ymwneud â’r Cyhoedd Claire fod ei rodd yn gydnabyddiaeth o harddwch Eryri ac er cof am Marie, gan fod “ei phersonoliaeth hyfryd, cartref ger y môr a bwyd cartref blasus wedi arwain at lawer o atgofion plentyndod hapus. Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn fy holl weithgareddau, yn cynnwys fy nghariad tuag at fyd natur a’r awyr agored.”
Yn aelod o Gymdeithas Eryri ers dro 30 mlynedd, mae Richard yn cofio amryw o deithiau dringo i’r Parc Cenedlaethol yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Warwick. “Roeddem yn teithio mor rheolaidd i Eryri fel ein bod yn adnabod pob troad yn ffordd yr A5!”
Mae Cymdeithas Eryri yn hynod o ddiolchgar i Richard am ei gyfraniad hael er cof am ei fodryb, ac am ei ymrwymiad i’r Parc Cenedlaethol sy’n golygu cymaint iddo.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk