Mae Rhaeadr y Cwm, un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri o dan fygythiad unwaith eto

Mae Rhaeadr y Cwm, un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri o dan fygythiad unwaith eto

Mae Cwm Cynfal yn lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd dros fileniwm. Mae’n un o raeadrau mwyaf mawreddog Eryri. Ond rwan mae’n cael ei fygwth unwaith eto gan gynllun trydan dŵr a fyddai’n golygu codi argae dros yr afon a dargyfeirio cymaint â 70% o’r dŵr o amgylch y rhaeadr.

Tair gwaith eisoes dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno ar gyfer cynlluniau trydan dŵr yng Nghwm Cynfal. Tair gwaith maen nhw naill ai wedi cael eu gwrthod neu eu tynnu’n ôl. Ond rwan mae datblygwyr ar fin gwneud cais pellach ac maen nhw wedi bod yn rhedeg “ymgynghoriad o flaen cyflwyno cais” ac mae’r ymgynghoriad yma’n dod i ben ar y 24 Tachwedd.

Elusen gofrestredig yw Cymdeithas Eryri sydd, ers dros 50 mlynedd, wedi galluogi pobl i gymryd rhan weithredol yn gofalu am a gwarchod Eryri trwy gymysgedd unigryw o eiriolaeth, gwirfoddoli a chadwraeth ymarferol.

Rwan mae’r Gymdeithas wedi ymateb i’r ymgynghoriad, gan wneud yn glir na all weld fawr ddim yn y dogfennau sy’n mynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd ganddi am y ceisiadau blaenorol.

Yn ei llythyr1 mae’r Gymdeithas yn nodi’n glir bod ei phryderon yn canolbwyntio ar yr ymwthiad i dirwedd wirioneddol syfrdanol, sy’n gysylltiedig â chwedlau’r Mabinogi ac a ddarluniwyd gan yr artist enwog David Cox2 yn 1836 yn ei lun eiconig Rhaiadr Cwm. Mae’r Gymdeithas hefyd yn poeni am effaith weledol y lleihad yn llif yn y rhaeadr ac ar hyd y rhan yma o’r afon ac effeithiau ecolegol hynny ar y mwsoglau a llysiau’r afu prin. Mae’r safle wedi’i warchod yn arbennig. Mae wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig.

Dywedodd Rory Francis, a ymgymerodd yn ddiweddar â swydd Cyfarwyddwr y Gymdeithas: “Mae yna reswm da iawn pam mae’r tri chais blaenorol ar y safle eiconig hwn naill ai wedi cael eu gwrthod neu eu tynnu’n ôl. Ni fyddai neb, gobeithio, yn ystyried am funud dargyfeirio Afon Aber a rhedeg Rhaeadr Fawr/Rhaeadr Aber trwy bibell blastig ddu. Yn yr un modd, ni ddylai neb ystyried achosi niwed sylweddol i ddyfroedd Afon Cynfal sydd wedi llifo’n ddirwystr ers iddynt gael eu plethu i eiriau’r Mabinogi.

“Rydym yn cefnogi’n gryf yr angen i ddatgarboneiddio’r economi, ond i gymharu, nid fyddai capasiti’r cynllun yma, sef 600kW, ond tua 8% o gapasiti un o’r tyrbinau 7.2MW yn fferm wynt arfaethedig Y Bryn rhwng Maesteg a Phort Talbot.”

Mae’r rhag-ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener 24 Tachwedd, ond os a phan gyflwynir cais cynllunio, bydd cyfle i bawb ymateb. Bydd y Gymdeithas yn postio manylion ar ei gwefan yn www.snowdonia-society.org.uk

  1. Amgaeir copi o’r llythyr YMA
  2. Gellir ei weld ar-lein yn: Rhaiadr Cwm, North Wales, 1836 – David Cox – WikiArt.org
  3. Mae Rhaeadr y Cwm tua dwy filltir i’r dwyrain o Ffestiniog ar gyfeirnodau grid SH 739 417. What3Words: birthdays.nametag.fixated

4. Mae ymgynghoriad y datblygwyr arlein yma: https://www.rmlconsult.com/cwm-cynfal-pac-documents.html

Comments are closed.