Diolch yn Fawr

Y llynedd, daeth nifer enfawr o bobl draw i Barc Cenedlaethol Eryri, gan bwysleisio mor fregus yw amgylchedd y mynydd yn ogystal â’i rôl hanfodol mewn cynnal lles corfforol a meddyliol pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Roedd gan ein Cynllun Croeso’n Ôl 2020 ran bwysig wrth groesawu’r don gyntaf hon o ymwelwyr yn ôl i’r Parc. Fodd bynnag, wrth i gyfyngiadau teithio barhau i mewn i 2021, roeddem yn gwybod bod rhaid i ni barhau i weithredu.

Wrth barhau gyda’n partneriaeth gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roedd cynllun eleni i wirfoddolwyr, Caru Eryri, yn cynyddu ein gallu i ymateb gydag ychwanegiad tri llwybr newydd ac amserlen lawn o 134 diwrnod o ofalu am Eryri.

Mae hi’n amlwg bod cyfnodau anodd yn amlygu’r gorau ynddon ni i gyd, oherwydd cawsom ymateb wych gan nifer enfawr o bobl a oedd yn dymuno cymryd rhan. Llwyddodd cyfanswm o 70 o wirfoddolwyr i gwblhau 1653 awr o bresenoldeb hanfodol mewn sawl ardal brysur o’r parc.

Yn drist iawn, parhaodd croen banana a hancesi papur i fod yn broblem amlwg yn Eryri yr haf hwn; diolch i’n gwirfoddolwyr, cliriwyd y swm anhygoel o 1033kg o sbwriel o lethrau sawl mynydd a chilfan parcio. Hefyd, gyda chymaint yn fwy o ymwelwyr daeth heriau newydd i’r golwg, felly bu gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i addysgu ymwelwyr er mwyn sicrhau eu mwynhad yn ogystal â’u diogelwch yn y mynyddoedd.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu eu hamser a’u hegni tuag at y cynllun hwn. Mae eich gwaith yn dyst i’r brwdfrydedd a’r undod a amlygwyd ar bob diwrnod i wirfoddolwyr, glaw neu hindda. I ni, mae hyn yn pwysleisio rôl ganolog y gymuned mewn gwireddu cadwraeth, ac mai pobl, yn ogystal â lle, sy’n sicrhau bod Eryri yn arbennig.

Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth ein noddwyr yng nghyfnodau cynllunio a pharatoi’r project partneriaeth hwn, yn ogystal â’r cyfnod gweithredu.

Owen Davies.

 

Comments are closed.