-
Dyfodol Eryri – eich cyfle i cymryd rhan yn yr ymgynghoriaeth
Public consultation on the new Snowdon Partnership Plan opens today !
Mwy -
Her casglu sbwriel o’r 15 copa
Noddwch o rŵan! I helpu i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas Eryri, mae Bob am gwblhau her casglu sbwriel noddedig ar 15 copa Eryri.
Mwy -
50 mlynedd wedyn ac mae ar Eryri eich angen chi o hyd
Sut fyddai Eryri yn edrych erbyn hyn heb 50 mlynedd o wirfoddolwyr ac aelodau yn cyfrannu eu hamser a’u harian i ofalu am ac amddiffyn y mynyddoedd, y dyffrynnoedd a’r golygfeydd arbennig sydd mor annwyl i chi? Helpwch ni i adeiladu Cronfa at y Dyfodol!
Mwy -
Mae angen ar Barciau Cenedlaethol amdanoch
Gweithredwch cyn 6 Mehefin! Peidiwch a gadael i Weithgor Tirweddau’r Dyfodol Cymru chwalu teulu Parciau Cenedlaethol Prydain.
Mwy -
Future Landscapes Wales and the missing C-word
Welsh Government report writes the word ‘conservation’ out of National Parks
Mwy -
Gweithiodd ein gwirfoddolwyr trwy dywydd gwallgof mis Mawrth!
Cafwyd ysbeidiau heulog ym mis Mawrth, ond bu’n rhaid i’n gwirfoddolwyr wynebu rhywfaint o law trwm hefyd. Fe aethant allan yn y glaw a’n hindda i blannu coed, glanhau traethau, trwsio ffensys, garddio er budd bywyd gwyllt a chynnal a chadw coetiroedd.
Mwy -
Parciau Cenedlaethol mewn perygl
Mae brys anaddas i ddeddfu ynghylch ‘Tirweddau’r Dyfodol’ yn peryglu statws Parciau Cenedlaethol.
Mwy -
Trem yn ôl ar fis Chwefror
Ni wnaeth tywydd gwlyb mis Chwefror rwystro ein gwirfoddolwyr gweithgar rhag mynd allan i weithio er lles Eryri! Fe wnaethant weithio’n galed i reoli coetiroedd, clirio llwybrau, plannu coed a chlirio bambŵ.
Mwy -
Gwirfoddolwyr yn wynebu tywydd garw’r gaeaf!
Mae’n amlwg fod gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn dathlu ein hanner canmlwyddiant yn briodol iawn! Ym mis Ionawr, fe wnaethant gwblhau dros 200 awr o waith i warchod Eryri! Dyna gychwyn gwych i’r flwyddyn i brosiectau gwirfoddoli Cymdeithas Eryri. Llongyfarchiadau i bawb – gwaith gwych!
Mwy -
Rhaeadr y Graig Lwyd enwebu fel Tirnod y Flwyddyn
Mae Fiona Reynolds wedi enwebu Rhaeadr y Garreg Lwyd fel Tirnod y Flwyddyn yng Ngwobrau Cylchgrawn Countryfile am 2017. Pleidleisiwch rwan i helpu warchod harddwch y Rhaeadr.
Mwy -
Rhodd Eryri yn codi £3,250 er budd dyfodol Eryri!
Mae Rhodd Eryri wedi codi dros £3,250 mewn chwe mis yn unig! Mae’r cyllid cyntaf o’r cynllun arbrofol hwn yn cael ei roi i Gymdeithas Eryri i’n cynorthwyo â’n gwaith ymarferol gyda phobl ifanc.
Mwy -
Cymdeithas Eryri yn buddsoddi yng nghadwraethwyr y dyfodol
Hoffech chi weithio ym maes cadwraeth yn y dyfodol? Fel rhan o weithgareddau ei hanner canmlwyddiant, mae’r elusen cadwraeth Cymdeithas Eryri yn edrych tua’r dyfodol ac yn buddsoddi mewn gwirfoddolwyr.
Mwy -
Diwrnodau Gwaith mis Ionawr
Ydych chi’n edrych am Adduned Flwyddyn Newydd? Beth am wirfoddoli i Gymdeithas Eryri? Yn fis Ionawr, ymunwch â ni am ein diwrnod gwaith yn y goedwig law Geltaidd, diwrnod gwaith i gynnal a chadw llwybr Lôn Gwyrfai, diwrnod gwaith yn y coetir a llawer mwy
Mwy -
Ymunodd myfyrwyr Prifysgol Bangor yn y frwydr!
Eu gwaith am y diwrnod oedd helpu Cymdeithas Eryri i glirio Rhododendron ponticum o Nant Gwynant.
Mwy -
Cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri i gynllun uchelgeisiol ar gyfer y Carneddau.
Cyhoeddwyd heddiw fod Partneriaeth Tirwedd y Carneddau wedi derbyn cymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer grant o £1.92m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) drwy ei rhaglen Partneriaeth Tirwedd.
Mwy -
Gwyliau Ynys Enlli – archebwch le rwan!
1 – 8 Gorffennaf 2017. Darganfyddwch hanes, natur a rhinweddau ysbrydol Enlli mewn ymweliad am wythnos gyfan, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd 50fed y Gymdeithas.
Mwy -
Wyddfa Lân ar restr fer am Wobr!
Mae ein prosiect Wyddfa Lân wedi cael ei gynnwys ar restr fer Gwobr Amddiffynnydd y Parc gan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol. Fel rhan o brosiect Wyddfa Lân, mae Cymdeithas Eryri yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau i weithio tuag at sicrhau gostyngiad sylweddol mewn sbwriel ar yr holl brif lwybrau o’r gwaelod […]
Mwy -
Swyddog Prosiect newydd i Dŷ Hyll
Rydym yn falch o groesawu aelod diweddaraf ein tîm, sef Tamsin Fretwell, sydd wedi cael ei phenodi yn Swyddog Prosiect Tyfu Tŷ Hyll. Mae gan Tamsin brofiad helaeth iawn: o’r gwaith ymarferol o reoli gwarchodfeydd i drefnu llawer o ddigwyddiadau i’r cyhoedd. “Bydd rhywbeth ar gael i bawb” meddai Tamsin, pan ofynnwyd iddi am ei chynlluniau, “o helfeydd chwilod i blant i hyfforddiant ffurfiol i ddatblygu sgiliau adnabod, rwy’n awyddus i sicrhau fod prosiect Tyfu Tŷ Hyll yn cynnig rhywbeth a wnaiff apelio at bawb!” Cadwch olwg am ragor o fanylion!
Mwy -
Ein hwythnos gwirfoddoli orau erioed!
Yr wythnos diwethaf, aeth grŵp o’n gwirfoddolwyr i weithredu’n ymarferol am bum diwrnod! Â’u hoffer yn barod, fe wnaeth y criw weithio’n galed i warchod a gwella gwahanol rannau o’r parc cenedlaethol arbennig – ffordd wych o ddod i’w adnabod! Cynhaliwyd gweithgaredd gwahanol pob dydd, felly roedd rhywbeth at ddant pawb – pa un ai a oeddent yn dymuno cynnal a chadw llwybrau troed hynod boblogaidd yr Wyddfa neu glirio ffromlys chwarennog o Ardal Cadwraeth Arbennig.
Mwy -
Pori cadwraethol yn Llyndy Isaf
9 Gorffennaf. Mae llefyd ar gael o hyd ar y daith dywys arbennig ar fferm drawiadol Llyndy Isaf, Nant Gwynant, yng nghwmni Sabine Nouvet (Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Cysylltwch â ni i sicrhau eich lle!
Mwy