Rydw i wedi bod yn fy swydd fel Swyddog Cadwraeth Ymarferol ers ychydig dros fis, ac am fis diddorol rydw i wedi ei gael. Rydw i wedi cael cyfle i gyfarfod amrywiaeth eang o wirfoddolwyr, o bobl leol i rai sy’n dod o gryn bellter. Mae pawb wedi cyfrannu’n wych at y gwaith sydd ar y gweill.

Ar ôl cyfnod o arfer efo’r swydd, roeddwn i’n falch iawn o gael helpu tîm casglu sbwriel Caru E ryri, a’r tro cyntaf i mi ymuno â nhw oedd ar y daith i
fyny’r Wyddfa. Ar ôl cyfarfod yng Nghoedwig Victoria, aethom ar hyd llwybr Llanberis tuag at ein man cychwyn, heibio i Glogwyn Du’r Arddu. Dyma lle cawsom ein cinio, mewn gwynt oedd yn teimlo fel anadl Boreas – y duw Groegaidd – a oedd yn gwneud ei orau i’n chwythu oddi ar ein traed. Ar ôl cinio, daeth y glaw a difetha gweddill y dydd, ond ni wnaeth hynny ddiffodd ein brwdfrydedd. Cefais amser hyfryd yn sgwrsio â fy Modryb Susan ar y ffordd i lawr; nid oeddem wedi gweld ein gilydd ers peth amser, ac roedd yn braf iawn ei gweld hi eto fel gwirfoddolwr.

Roedd fy ail daith yr un mor wych. Gan ddechrau yn Beddgelert a theithio ar y bws i Nantgwynant, dechreuon ni ein taith ym Mhont y Benglog a cherdded yn ôl i Beddgelert ar hyd afon Glaslyn. Gwelwyd nifer enfawr o fadarch ger Llyn Dinas ac ar hyd y llwybrau.
Roedd y diwrnod eisoes wedi bod yn ddiddorol, ac yna cawsom ein swyno gan ddyfrgi a oedd yn perfformio campau yn y dŵr – roedd ei natur chwareus yn ein swyno i gyd.

Cawn deimlo amrywiaeth o emosiynau ar ddyddiau casglu sbwriel; rhai da a rhai nad ydyn nhw cystal. Fel cerddorfa yn chwarae eu nodau uchel ac isel, rydych chi’n dysgu i werthfawrogi yr
hyn sy’n bwysig i chi, fel treulio amser yn yr awyr agored ac ym myd natur, gwerthfawrogi ei ryfeddodau, a mwynhau cwmni gwych. Serch hynny, mae yna hefyd siom a thristwch oherwydd bod cymaint o sbwriel yn cronni mewn amgylcheddau mor wyllt a garw. Am ryw reswm neu’i gilydd, rydym yn anlwcus bod sbwriel i’w gael yma hefyd – boed hynny’n ddamweiniol ai peidio.
Ond, yn wahanol i noson yn y BBC Proms, gallwn wneud gwir wahaniaeth. Mae ymroddiad di-ildio ein gwirfoddolwyr yn haeddu clod. Roedd hi’n rhyfeddol gweld y tîm yn siarad â phobl eraill ar y llwybr, gan egluro pwysigrwydd eu gwaith a’r gwerth sydd ynddo. Yn y pen draw, rhoddwyd y gorau i’r siom a’r tristwch, a daeth balchder yn eu lle, ynghyd â math newydd o berthynas â thîm hirsefydlog Caru Eryri. Rydw i’n teimlo’n ffodus o fod yn rhan o’r sefydliad hwn.
Yn ystod y dyddiau gwaith dilynol, sylwais fod thema gyffredin yn rhedeg drwyddyn nhw: cadw’r amgylchedd yn daclus. Beth rydw i’n ei olygu wrth hynny? Nid swyddfeydd na phalasau mawr yw amgylcheddau naturiol; rydym wedi dod yn warchodwyr byd natur. Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru, lle mae cymaint o dir, dros y canrifoedd, wedi cael ei drawsnewid o goedwigoedd glaw Celtaidd i dir amaethyddol, neu wedi cael ei gloddio ar gyfer chwareli. Mae rhan o’n gwaith yn cynnwys clirio rhywogaethau ymledol a diangen o’n coedwigoedd a’n tir.
Y diwrnod hwn, roeddem yn gweithio ar dir preifat o 23 erw sydd o dan ofal Sven a Jane, pobl hyfryd iawn.
Roedd y gwirfoddolwyr yn helpu i glirio rhywogaethau ymledol er mwyn creu cynefin gwell i’r pathew trwy dorri bambŵ yn y bore a’i losgi, er bod peth ohono wedi’i gadw i’w ddefnyddio yn y dyfodol.
Cawsom ginio yn y twnnel polythen, lle cawsom fwynhau grawnwin a blasu tomatos cartref blasus.
Roedd y gwirfoddolwyr wedi cyflawni gwaith da yn y bore, ac yn y prynhawn crëwyd mwy fyth o gynefinoedd trwy dorri a chlirio hen lwyni Rhododendron.
Roedd yn wych cyfarfod Jane a Sven ar eu tir hyfryd. Roedd sgwrs Tim am goedwigoedd a’r arfer o docio coed, ynghyd â’i wybodaeth am olosg, yn werthfawr iawn. Roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan yn fy niwrnod cadwraeth cyntaf.
Ychydig i lawr y ffordd,
cawsom ein croesawu gan Jade o’r RSPB i Goed-y-parc yn Nolgellau. Yno, cliriodd ein gwirfoddolwyr goed celyn a choed conifferaidd i wella haen isaf y goedwig (gweler lluniau o’r sefyllfa cyn ac ar ôl). Roedd llawer o’r gwaith yn ymddangos braidd yn ddiangen, gan ei fod yn golygu tynnu coed sydd wedi ymsefydlu yma ac sy’n mwynhau’r mannau cysgodol. Fodd bynnag, dyma beth rydw i’n ei olygu wrth ‘dacluso’. Trwy gael gwared ar goed celyn a rhywogaethau ymledol, gall mwy o olau gyrraedd llawr y goedwig; mae hyn yn rhoi cyfle i blanhigion brodorol a bywyd gwyllt ffynnu, ac yn helpu i hybu bioamrywiaeth yn y goedwig law Geltaidd hon.
Roeddem yn Ynys Wyllt, Bwlch Derwin, yn gwneud gwaith rheoli cynefinoedd o amgylch siglenni. Roedd y tir yn hynod wlyb ac yn llawn twmpathau, felly roedd cyrraedd y safle a gadael yn
her go iawn ar ôl yr holl law trwm a gafwyd yn ddiweddar!
Cafodd rhai ohonom hefyd brofiadau difyr gyda’r mwd o dan draed… gan gynnwys y Swyddog Cadwraeth!
Yn ffodus, roedd yr haul yn disgleirio trwy gydol y dydd, a wnaeth y gwaith caled yn fwy pleserus.

Gwnaeth ein gwirfoddolwyr waith gwych yn tocio celyn a choed conifferaidd i helpu i gadw’r tir yn wlyb. Mae hyn yn bwysig er mwyn cynnal y cynefin unigryw a’r planhigion arbennig sy’n ffynnu yno. Un rhywogaeth sy’n arbennig o bwysig yw tamaid y cythraul. Roedd hi’n hyfryd cael bod mor agos i’r blodau a sylwi ar eu manylion cywrain niferus. Mae’n blanhigyn eithaf tal gyda dail hirgrwn ar y gwaelod; mae larfâu’r glöyn byw britheg y gors yn defnyddio’r rhain fel ffynhonnell fwyd hanfodol. Daw ei enw rhyfedd o’i wreiddyn – dywedir i’r diafol ei frathuffwrdd er mwyn cael gwared â’i briodweddau iachàu.
Cafwyd llawer o brofiadau gwych dros y mis diwethaf, efallai gormod i’w disgrifio mewn geiriau… ond gwnaf fy ngorau i roi cynnig arni.
Hoffwn ddiolch i holl staff y Gymdeithas am roi cymaint o groeso i mi ac am fy helpu i ymgartrefu yma. Mae hefyd wedi bod yn bleser siarad â’r holl wirfoddolwyr a gweld eu bod yn rhannu fy angerdd tuag at dirwedd naturiol Eryri.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk