CCB 2026

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Plas Menai neu ar-lein am 2pm ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026

Dyma eich cyfle i ymuno â’r tîm staff ac ymddiriedolwyr i ddysgu am waith y Gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf a’n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd cyfle hefyd i chi fynegi eich barn ynghylch y defnydd o’r elw o werthu Tŷ Hyll.

Cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ymunwch â Rob Nicholson am daith gerdded dywysedig ddewisol a hawdd ym Mharc Vaynol.

Bydd cofnodion 2025, yr Adroddiad Blynyddol, y Cyfrifon Blynyddol a’r Adolygiad o’r Flwyddyn ar gael ar ein gwefan: www.snowdonia-society.org.uk erbyn 1 Tachwedd.

Os na allwch gael mynediad at y wybodaeth drwy ein gwefan, cysylltwch â’r swyddfa drwy e-bostio info@snowdonia-society.org.uk neu ffonio’r swyddfa ar 01286 685498. Yna, byddwn yn e-bostio neu’n postio’r dogfennau atoch. Bydd y rhai sy’n cofrestru i fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn derbyn y dogfennau’n awtomatig drwy e-bost.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth barhaus i’r Gymdeithas ac i’n holl waith i warchod a gwella Eryri.

11am – Taith gerdded ddewisol
Ymunwch â Rob Nicholson am daith gerdded dywysedig hawdd ym Mharc Vaynol (Dewch â chinio pecyn).

Agenda
13:30-14:00 Cofrestru, te a choffi
14:00 – 15:30 Gwaith ffurfiol y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

  1. Ymddiheuriadau
  2. (i) Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025
    (ii) Materion yn codi o’r cofnodion hyn
  3. Adroddiad y Cadeirydd – Sue Beaumont
  4. Adroddiad y Cyfarwyddwr – Graeme Cotterill
  5. Adroddiad Prosiect Cadwraeth
  6. Adroddiad Ariannol
  7. Mabwysiadu’r Adroddiadau a’r Cyfrifon
    (i) Cynnig i fabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben 31 Mawrth 2026
  8. Ethol Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor Gweithredol a phenodi Ymddiriedolwyr newydd
  9. Cwestiynau i’r Cyfarwyddwr a’r Swyddogion
  10. Unrhyw Fater Arall

15:30-16:00 Egwyl

16:00 – 16:30 Defnyddio’r elw o werthu Tŷ Hyll: casglu syniadau

Cofrestrwch YMA erbyn 9/11/26