Cwm Cynfal: Datblygiad sylweddol

Os ydych chi wedi bod yn dilyn ein negeseuon e-bost a’n cyfryngau cymdeithasol yn agos, byddwch eisoes yn gwybod ein bod wedi bwriadu mynd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) i Adolygiad Barnwrol am y tro cyntaf yn ein hanes 60 mlynedd. Ar ôl  llawer iawn o waith paratoi, cyflwynwyd y papurau i ddechrau’r broses ym mis Awst, ac roeddem yn disgwyl i’r broses barhau ymhell i mewn i 2027.

Fodd bynnag, ddiwedd mis Medi, cawsom wybod yn annisgwyl gan ein tîm cyfreithiol fod APCE wedi derbyn bod un o’n dadleuon cyfreithiol yn erbyn y penderfyniad yn un y gellid ei dadlau – a bod y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun ynni dŵr yng Nghwm Cynfal yn anghyfreithlon o bosibl ac y dylid ei ddirymu. Mae’n bwysig pwysleisio nad ydynt wedi derbyn y rhan fwyaf o’n dadleuon, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny – ac ni fydd hyn yn effeithio o gwbl ar ein gallu i ddefnyddio’r dadleuon hynny yn y dyfodol.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Unwaith y bydd APCE wedi mynd i’r afael â’r pwynt cyfreithiol penodol dan sylw, rydym yn disgwyl i’r cais ddychwelyd at y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad mwy eu lai fel yr oedd o’r blaen – ac efallai mor fuan â’r 25ain o Dachwedd. Os bydd y bleidlais yn mynd yr un ffordd am yr eildro, mae’n debygol iawn y byddwn yn gwneud ail gais am Adolygiad Barnwrol.

Mae angen eich cymorth o hyd!

Er y dylem allu adennill cyfran o’r costau cyfreithiol rydym wedi’u hwynebu hyd yma, credwn nad yw’n debygol y cawn y swm llawn – ac mae pob posibilrwydd y bydd angen ysgwyddo costau cyfreithiol pellach yn yr ymgyrch barhaus dros ddyfodol Cwm Cynfal; yn enwedig os na allwn berswadio’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn APCE i ail-feddwl. Rydym eisoes wedi codi dros £17,000 gan gefnogwyr gwych – gweler justgiving.com/campaign/cwm-cynfal i weld beth maen nhw wedi’i ysgrifennu – ac rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a godwyd hyd yma.

Os allwch chi gyfrannu o hyd, cofiwch wneud hynny os gwelwch yn dda – mae’n debygol y byddai’r costau sy’n gysylltiedig ag Adolygiad Barnwrol llawn yn cyrraedd dros £60,000, ac efallai y bydd angen y swm llawn arnom yn y pen draw. Os byddwn yn ddigon ffodus i godi mwy nag sydd ei angen arnom yn y tymor byr, byddwn yn creu ‘cronfa ymgyrchu’ i gefnogi ein gwrthwynebiad i ddatblygiadau amhriodol yn Eryri – gan roi blaenoriaeth, wrth gwrs, i Gwm Cynfal ei hun.

Diolch

Am y tro, diolch am eich cefnogaeth barhaus – boed hynny trwy eich aelodaeth o Gymdeithas Eryri, eich cyfraniad at ein hymgyrch codi arian ar gyfer Cwm Cynfal, neu’r ddau. Ni allem wneud hyn hebddoch chi.