Cynllun ynni arfaethedig ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn sbarduno Adolygiad Barnwrol cyntaf yn hanes 60 mlynedd y Gymdeithas
Mae Cymdeithas Eryri wedi gwneud cais am Adolygiad Barnwrol o benderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gymeradwyo cynllun y mae ymgyrchwyr yn dadlau fydd yn niweidio un o raeadrau mwyaf eiconig y Parc Cenedlaethol.
Nid dyma lle roedd Cymdeithas Eryri eisiau bod.
Ar 24 Mehefin, penderfynodd Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) roi caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun trydan dŵr yn un o raeadrau mwyaf eiconig y Parc Cenedlaethol – Rhaeadr y Cwm, uwchben Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd yr hysbysiad penderfyniad yn rhoi caniatâd cynllunio ar 15 Gorffennaf. Dyma gynllun y mae Cymdeithas Eryri a sefydliadau eraill o’r un anian wedi’i wrthwynebu’n gyson: ar adegau, byddai bron i 70% o’r dŵr yn cael ei ddargyfeirio o’r rhaeadr i bibell blastig, gan fygwth y profiad synhwyraidd a’r amgylchedd unigryw sy’n gysylltiedig â’r lle arbennig hwn.
Saif y rhaeadr o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cwm Cynfal ac mae’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA) ehangach y Migneint–Arenig–Dduallt: ardal o bwys rhyngwladol ar gyfer gorgorsydd a rhostir yr ucheldir. Mae’r safle’n cynnal bryoffytau prin (mwsoglau a llysiau’r afu) sy’n nodweddiadol o geunentydd llaith ac amrywiaeth o anifeiliaid gan gynnwys ystlumod, pryfed, adar a mamaliaid bach sy’n nodweddiadol o weddillion coedwig law Geltaidd hynafol. Saif y SoDdGA hefyd yn gyfan gwbl o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac o fewn Tirwedd Hanesyddol o Ddiddordeb Eithriadol Ardudwy.
Mae sefydliadau amgylcheddol wedi mynegi pryderon drwy gydol y broses ymgeisio ynghylch effeithiau niweidiol posibl llai o lif dŵr ar ecoleg sensitif yr amgylchedd lleol, yn enwedig y niwed a allai gael ei achosi i rywogaethau neilltuol o fryoffytau sydd eisoes yn prinhau fwyfwy. Roedd y bleidlais i gymeradwyo’r cais yn agos – mwyafrif o 8 i 7 – gydag, yn arbennig, pump o’r chwech a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i Fwrdd yr Awdurdod yn pleidleisio yn ei erbyn a’r chweched yn methu â chymryd rhan yn y broses.
Roedd Cymdeithas Eryri yn siomedig iawn gyda chanlyniad y bleidlais – ond roedd ganddi bryderon difrifol hefyd ynghylch agweddau ar y broses gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys methiant APCE i egluro a chymhwyso gofynion polisi cynllunio cenedlaethol (Polisi Cynllunio Cymru: PCC) ynghylch yr amgylchiadau y gellir rhoi cymeradwyaeth ar gyfer cynigion sy’n niweidio SoDdGA ac i fodloni’r gofyniad bod “amgylchiadau cwbl eithriadol” ar gyfer rhoi caniatâd, fel y nodir hefyd yn PCC.
O ganlyniad, yn ystod yr wythnosau yn syth ar ôl y bleidlais, cymerodd Cymdeithas Eryri a’n cefnogwyr amser i geisio cyngor cyfreithiol ac ystyried ein hopsiynau’n ofalus, a’r unig opsiwn oedd gwneud cais i’r Uchel Lys am Adolygiad Barnwrol o’r caniatâd cynllunio a roddwyd gan APCE. Yn y pen draw, penderfynon ni o’r diwedd nad oedd gennym ddewis. Roedd hon yn frwydr rhy bwysig i beidio â mynd â hi ymhellach.
Cyflwynodd ein tîm cyfreithiol hawliad am adolygiad barnwrol ar 26 Awst 2026. Cyhoeddodd Llys Gweinyddol Caerdydd y ffurflen hawlio wedi’i selio ar 8 Medi 2026, ac mae’r hawliad wedi’i gyflwyno’n ffurfiol i’r partïon. Mae’n debygol y bydd penderfyniad ynghylch a oes gennym ganiatâd i fwrw ymlaen i wrandawiad llawn yn cael ei wneud cyn diwedd 2026 ac mae’n annhebygol y bydd penderfyniad terfynol tan ganol/diwedd 2027.
Mae Cymdeithas Eryri wedi lansio ymgyrch i helpu i ariannu’r costau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r Adolygiad Barnwrol hwn – costau sy’n debygol o gyrraedd dros £60,000 – ac maent eisoes wedi sicrhau addewid o £7,500. Gwahoddir cefnogwyr i ymweld â www.justgiving.com/campaign/cwm-cynfal a chyfrannu’r hyn y gallant, gyda gyda diolch o galon gan y Gymdeithas am unrhyw gyfraniad a dderbynnir.
Dywedodd Graeme Cotterill, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: “Mae cymryd y cam hwn yn ddigynsail i Gymdeithas Eryri. Yn ein hanes 60 mlynedd, rydym wedi ymwneud â nifer di-ri o benderfyniadau cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – ond dyma’r tro cyntaf i ni herio un yn gyfreithiol. Er bod ein perthynas waith agos â’r Awdurdod yn ystod y blynyddoedd diwethaf o fudd i bawb ac rydym yn bwriadu iddi barhau, mae’n bwysig ein bod yn herio penderfyniadau nad ydym ni a’n cefnogwyr yn teimlo eu bod wedi’u gwneud er budd gorau’r Parc.”
Cynrychiolir Cymdeithas Eryri gan Ricardo Gama, Carol Day, Lily Hartley-Matthews a Romany Kisbee-Batho o Leigh Day.
Meddai Lily Hartley-Mathews, cyfreithwraig: “Mae’r ffaith bod Cymdeithas Eyri wedi cymryd y cam digynsail hwn yn dangos pa mor ddifrifol y mae’n ystyried y penderfyniad hwn. Mae’r achos hwn yn ymwneud ag un o raeadrau mwyaf eiconig Cymru a thirwedd sy’n cael rhai o’r lefelau uchaf o ddiogelwch amgylcheddol sydd ar gael. Wrth wraidd y cais, mae’n ymwneud â sicrhau bod y penderfyniad hwn i gymeradwyo datblygiad mawr ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi’i gymryd yn gyfreithlon ac yn unol â’r polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol a fwriadwyd i ddiogelu lleoedd o’r fath arwyddocâd.”
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk