Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad ReAgent [ReAgent Foundation] sydd wedi dewis cefnogi Cymdeithas Eryri gyda rhodd o £10,000. Rydym hefyd wedi cyffroi’n arw wrth groesawu rhai o aelodau staff ReAgent i’n dyddiau gwirfoddoli yn y dyfodol – bydd cyfleoedd yn amrywio o fynd ati i gynnal a chadw llwybrau troed yn y mwd i blannu coed neu glirio rhywogaethau ymledol.
Mynychodd ein haelodau staff Mary-Kate Jones (Rheolwr Rhaglen) ac Isobel Marshall Andrews (Rheolwr Cadwraeth) lansiad Sefydliad ReAgent yr wythnos diwethaf i gwrdd â’r tîm a lledaenu’r gair am ein gwaith cadwraeth. Roedd yn bleser ymweld â thîm sy’n amlwg mor hapus!
Dywed Rich Hudson, Cadeirydd Sefydliad ReAgent, “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi Cymdeithas Eryri yn 2026. Rydym yn credu eu bod yn gwneud gwaith gwych ac rydym yn cynllunio i dîm o ReAgent wirfoddoli eu hamser yn Eryri. Mae Cymdeithas Eryri hefyd yn cyd-fynd yn dda â Her Sefydliad ReAgent eleni o gwblhau’r Tri Chopa mewn 24 awr.”
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk