Jason Jones

Swyddog Gwirfoddolwyr

Jason yw’r Swyddog Gwirfoddolwyr ac mae’n gyfrifol am recriwtio gwirfoddolwyr a hyrwyddo digwyddiadau wedi’u trefnu trwy amrywiaeth o sianeli cyfryngau. Ef yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a phresennol.

Wedi’i fagu ym Meirionnydd ac wedi’i amgylchynu gan yr awyr agored, mae o bellach yn byw yng ngogledd Eryri, Mae wedi bod wrth ei fodd erioed yn crwydro’r mynyddoedd a’r bryniau yr ydym mor ffodus i’w cael o’n cwmpas.

Mae Jason yn siaradwr Cymraeg rhugl ac mae’n angerddol am sicrhau y gall pawb fwynhau’r awyr agored a’r buddion y mae’n eu cynnig ond gan sicrhau ei fod yn parhau’n lân, yn ddiogel ond yn bwysicaf oll yn cynnal ei harddwch naturiol eithriadol.