Rydym yn archwilio ceisiadau cynllunio yn y Parc Cenedlaethol – gwaith diflas a chymhleth sy’n golygu treulio amser yn ei wneud, ond sy’n hanfodol i sicrhau gwarchodaeth tirlun, bywyd gwyllt, a mannau arbennig y Parc Cenedlaethol.
Mae Cymdeithas Eryri’n cyfrannu i ymgynghoriadau gan awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, cwmnïau gwasanaethau a Llywodraeth Cymru ar feysydd polisi megis rheolaeth tir, cadwraeth, treftadaeth, cludiant, a chynllunio.
Rydym yn ymgyrchu dros yn ogystal ag yn erbyn. Pan welwn ddatblygiad a fydd o fudd i gymunedau lleol neu fyd natur byddwn yn gweithredu i’w gefnogi.
Mae gan aelodau a chefnogwyr Cymdeithas Eryri ran hanfodol fel ein ‘llygaid a chlustiau’. Gallwch chithau gynorthwyo:
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk