Rhybudd am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2015, 2yp
Theatr y Ddraig a Chanolfan Cymunedol y Bermo
Ffordd Jubilee, Y BERMO, Gwynedd LL42 1EF
Mae John Harold, cyfarwyddwr y Gymdeithas, yn annog aelodau i gymryd rhan yn y CCB. “Rydw i’n awyddus i glywed eich barn am faterion pwysig, ein gwaith a’n cyfeiriad”.
Dalier Sylw: Mae Alun Ffred Jones AM wedi tynnu allan fel siaradwr a bydd Sabine Nouvet, Ceidwad Cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Eryri a Llŷn, yn siarad yn ei le.
Lawrlwytho ffurflen gofrestru
10.45 ‘Golwg o’r Bont’ – Taith gerdded ddwy-awr yn ardal y Bermo i gynnwys pont hanesyddol aber y Mawddach, sydd mewn perygl o gael ei chau i gerddwyr. Yn cynnwys rhywfaint o esgyn a thir garw. Gwisgwch fwts neu esgidiau cryfion.
13.00 Cinio (Mae archebu’n hanfodol – gweler y ffurflen gofrestru)
14.00 Busnes swyddogol
15.30 Te a choffi
15.50 ‘Cadwraeth Bugeilio – Opsiynau newydd ar gyfer adfer cynefinoedd yn ucheldiroedd Cymru?’ – Siaradwr gwadd, Sabine Nouvet, Ceidwad Cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Eryri a Llŷn
16.50 Gorffen
Lawrlwytho ffurflen gofrestru