Cymdeithas Eryri yn dathlu ymrwymiad i wir gyflog byw

Mae Cymdeithas Eryri bellach yn achrededig fel Cyflogwr Cyflog Byw. O ganlyniad i’n ymrwymiad Cyflog Byw bydd pawb sy’n gweithio i’r Gymdeithas yn derbyn lleiafswm cyflog fesul awr o £9.50 (yn gynyddu i £9.90 yn gynnar yn 2022); yn sylweddol uwch na lleiafswm y llywodraeth i bobl dros 21, a saif ar hyn o bryd ar £8.91 yr awr.  Lleolir Cymdeithas Eryri yng Nghymru lle mae oddeutu 241,000 swydd yn talu llai na’r gwir Gyflog Byw. Er hyn, mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i dalu’r gwir Gyflog Byw a sicrhau tâl teg fesul diwrnod am ddiwrnod o waith dygn.

Y gwir Gyflog Byw yw’r unig raddfa a ddyfalwyd yn unol â chostau byw. Mae’n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sy’n dymuno sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog y mae’n bosib iddyn nhw fyw arno, ac nid lleiafswm y llywodraeth yn unig. Ers 2011 mae’r mudiad Cyflog Byw wedi sicrhau codiad cyflog i dros 250,000 o bobl ac wedi rhoi £1.3 biliwn ychwanegol ym mhocedi gweithwyr ar dâl isel.

Meddai John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: “Mae ein tîm o staff yn gweithio i warchod, gwella a dathlu Eryri ac rydym yn falch iawn o allu cydnabod eu gwaith drwy warantu gwir Gyflog Byw iddyn nhw. Boed yn weithiwr â thâl o dan hyfforddiant, yn gweithio o’r swyddfa neu yn y maes yn arwain digwyddiadau a gweithgareddau gwirfoddol yn Eryri, mae pob aelod o’r tîm yn chwarae eu rôl bwysig eu hunain i helpu i warchod Eryri ac maen nhw’n haeddu cael eu talu’n deg am hyn.”

Meddai Laura Gardiner, Cyfarwyddwr, Living Wage Foundation: “Rydym yn falch iawn bod Cymdeithas Eryri wedi ymuno â’r mudiad o dros 7,000 o gyflogwyr cyfrifol ledled y DU sy’n ymrwymo’n wirfoddol i fynd ymhellach na lleiafswm y llywodraeth i sicrhau bod pob un o’u staff yn ennill digon i fyw arno.

 Maen nhw’n ymuno â miloedd o fusnesau bychain, yn ogystal ag enwau cyfarwydd megis Burberry, Barclays, Clwb Pêl-droed Everton a llawer mwy. Mae’r busnesau hyn yn cydnabod bod talu’r gwir Gyflog Byw yn nodi cyflogwr cyfrifol a’u bod, fel Cymdeithas Eryri, yn credu bod diwrnod o waith yn haeddu tâl teg am ddydd o waith.”

Mwy am Gyflog Byw

Y gwir Gyflog Byw yw’r unig raddfa a ddyfalwyd yn unol â’r hyn sydd ei angen ar bobl i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae’n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sy’n dewis dangos eu hochr drwy sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog sy’n ateb y costau a’r pwysau y maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.   Ar hyn o bryd mae Cyflog Byw y DU yn £9.50 yr awr. Mae graddfa Cyflog Byw ar wahân yn Llundain o £10.85 yr awr i adlewyrchu costau uwch trafnidiaeth, gofal plant a chynnal cartref ym mhrifddinas Lloegr. Penderfynir ar y ffigurau hyn yn flynyddol gan y Resolution Foundation a’u harolygu gan y Living Wage Commission, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ar safonau byw yn Llundain a’r DU.

Y Living Wage Foundation yw’r corff wrth wraidd y mudiad lle mae busnesau, cyrff ac unigolion yn ymgyrchu dros y syniad syml bod angen tâl teg am ddiwrnod dygn o waith. Mae’r Living Wage Foundation yn derbyn arweiniad a chyngor gan Gyngor Ymgynghorol Cyflog Byw. Cefnogir y Sefydliad gan ein prif bartneriaid: Aviva; IKEA; Joseph Rowntree Foundation; KPMG; Linklaters; Nationwide; Nestle; Resolution Foundation; Oxfam; Trust for London; People’s Health Trust; a Queen Mary University of London.

Beth am gyflog byw cenedlaethol y Llywodraeth?

Ym mis Gorffennaf 2015 cyhoeddodd Canghellor y Siecr y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno ‘cyflog byw cenedlaethol’ gorfodol. Fe’i cyflwynwyd ym mis Ebrill 2016 ac yn wreiddiol roedd yn berthnasol i bob gweithiwr dros 25 oed ac, o ddiwedd Ebrill 2021, yn £8.91 ar hyn o bryd ac yn berthnasol i bawb dros 23 oed. Mae’r raddfa yn wahanol i raddfeydd Cyflog Byw sydd wedi eu dyfalu gan y Sefydliad Cyflog Byw. Mae graddfa’r llywodraeth yn seiliedig ar enillion canolrif tra bod graddfeydd y Sefydliad Cyflog Byw wedi eu dyfalu yn unol â chostau byw yn Llundain a’r DU.

Comments are closed.