Mae tymor jac-y-neidiwr yma eto, ac mae angen eich cymorth arnom!

Fel rhan o Bartneriaeth Tirlun y Carneddau, mae Cymdeithas Eryri’n gweithio i gefnogi cymunedau lleol i fynd i’r afael â’r rhywogaeth ymledol jac-y-neidiwr yn eu hardal leol. Mae clirio jac-y-neidiwr yn orchwyl sy’n cymryd cryn amser ond sy’n hynod o werth chweil – ac mae llawer pâr o ddwylo’n gwneud gwir wahaniaeth yn yr achos hwn.

Mae hadau jac-y-neidiwr yn gwasgaru’n hynod o hawdd, ac mae’r planhigyn yn tueddu i dyfu’n helaeth ar lannau nentydd ac afonydd ac yn cael eu cludo i lawr yr afon. I glirio jac-y-neidiwr yn effeithiol, mae’n bwysig gwybod lle mae’n tyfu. Wedi i ni gael yr wybodaeth hon, gallwn lunio cynllun i glirio ardal dalgylch o ran uchaf yr afon i lawr gyda’r lli er mwyn sicrhau nad yw gwaith da gwirfoddolwyr a chymunedau’n mynd yn ofer wrth i hadau gael eu cludo o rannau uchaf y nant neu afon.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fap rhyngweithiol a fydd yn galluogi aelodau o’r cyhoedd i nodi’r lleoliadau lle maen nhw wedi sylwi ar jac-y-neidiwr o fewn ardal y project. Wrth i hwn gael ei ddatblygu, byddem yn falch o’ch cymorth! Os welwch chi unrhyw jac-y-neidiwr yn yr ardal hon, rydym yn gofyn i chi e-bostio cyfeirnod grid a llun o’r planhigyn i Dan Goodwin. Gyda’ch cymorth chi, gallwn ddechrau creu darlun clir o hyd a lled y broblem a chydweithio i wneud gwahaniaeth.

E-bostiwch eich darganfyddiadau i dan@snowdonia-society.org.uk

Am fwy o gymorth i adnabod jac-y-neidiwr, a chyngor ynglŷn â sut i ddechrau ei glirio, chwiliwch am ein harweiniad i’w adnabod, taflen a chwestiynau a ofynnir yn aml yma.

Comments are closed.