Ras fynydd pellter-cymdeithasol yn codi £200 i Gymdeithas Eryri

Ras fynydd pellter-cymdeithasol yn codi £200 i Gymdeithas Eryri

Cynhaliwyd ras fynydd Gladstone 9 yn Nwygyfylchi y mis diwethaf o dan reolau newydd sy’n cydymffurfio â Covid, gan godi £200 i gefnogi’r gwaith o warchod Parc Cenedlaethol Eryri.

Cynhaliwyd y ras fynydd leol fechan yng nghornel ogledd ddwyreiniol y Carneddau, a dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i’w gynnal yn dilyn codi cyfyngiadau’r clo mawr yn gynharach yn yr haf.  Meddai Ellie Salisbury:

“Wedi’r holl waith a’r newidiadau angenrheidiol roedd yn wych gweld pawb yn gwenu a chafwyd adborth positif dros ben gan bawb, gyda’r holl redwyr yn falch iawn o gael rasio unwaith eto ond, yn bwysicach fyth, yn teimlo’n ddiogel wrth wneud hynny.”

Mae’r trefnwyr Ellie ac Adrian wedi cyfrannu’r arian a gasglwyd yn eu rasys lleol bob blwyddyn o 2020 ymlaen. Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold:

“Mae Cymdeithas Eryri unwaith eto yn hynod o ddiolchgar i Ellie ac Adrian am eu gwaith diflino i gefnogi ein gwaith. Mae eu hymdrechion codi arian yn ddi-ben-draw – hyd yn oed yn ystod pandemig byd-eang.  Gallwn barhau i wneud ein gwaith, diolch i ymdrechion ar y cyd ein haelodau a’n cefnogwyr.”

Cysylltwch os oes gennych syniad am godi arian neu os hoffech ymuno â ni i helpu i warchod Eryri.

Comments are closed.