Tai haf: dewis iaith yn ofalus

Yn ddiweddar ymgynghorodd Llywodraeth Cymru parthed newidiadau arfaethedig i reoli effeithiau ail gartrefi a lletai gwyliau tymor byr. Gyda’i gilydd, lluniodd y Gynghrair dros Dirluniau Dynodedig Cymru (CDDC) a’r Ymgyrch Parciau Cenedlaethol (YPC) ymateb manwl i’r ymgynghoriad. Rydym yn aelodau o’r ddau gorff a buom yn cynorthwyo gyda drafftio’r cyflwyniad.

Isod mae ein Cyfarwyddwr, John Harold, yn edrych ar y cwestiwn o ail gartrefi mewn perthynas â chymunedau yn Eryri a’r cyffiniau.

Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yn: 220222 (FINAL) CNP AWDL response to WG consultation on planning changes for second homes and holiday lets

Caniatâd cynllunio ar gyfer ail gartrefi a lletai gwyliau tymor byr

Byddai cynigion diweddar Llywodraeth Cymru yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol gyflwyno gofyniad am ganiatâd cynllunio wrth newid cartref parhaol yn ail gartref neu lety gwyliau. Byddai dosbarthiadau defnydd newydd ar gyfer ‘Prif Gartrefi’, ‘Ail Gartrefi’ a ‘Lletai Gwyliau Tymor Byr’, yn seiliedig ar y nifer o ddyddiau y mae rhywun yn aros yn y lletai, a phwy ydyn nhw.  Ni fydd angen otomatig am ganiatâd cynllunio – bydd yr awdurdod cynllunio’n gallu ei wneud yn orfodol yn unol â Chyfarwyddyd Erthygl 4 a ddiffinnir yn ddaearyddol.

Iaith – effaith allweddol

Yn allweddol i ni mae effaith pwysau’r sefyllfa dai, a’r atebion a gynigir, ar yr iaith Gymraeg a’r cymunedau a wasanaethir ganddi. Mae Eryri wrth wraidd yr iaith Gymraeg; mae ei threftadaeth ieithyddol a diwylliannol yn rhan ganolog o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.

Am dros hanner canrif mae ein gwaith wedi ymateb i’r ffyrdd y mae pobl yn defnyddio’r Parc Cenedlaethol. Fel cyflogwr rydym yn hynod o ymwybodol o bwysau’r farchnad dai yn y cymunedau lleol sy’n gartref i’n staff (90% yn siarad Cymraeg) a llawer o’n gwirfoddolwyr. Felly mae ein hymateb wedi ei lunio gan ein pwrpasau elusennol a’n gwaith ymarferol, yn ogystal â’n rôl fel cyflogwr a’n rhan weithredol o gymdeithas wâr.

Patrymau amrywiol yn y tirlun

Mae ail gartrefi’n amlwg mewn rhannau o Eryri ac yn llai amlwg mewn eraill.  Lle mae cyfran sylweddol o’r stoc dai yn cael eu prynu gan bobl oddi allan i’r ardal fel tŷ haf neu i’w osod fel llety gwyliau fe all hyn effeithio ar fywyd, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol ac, yn y pen draw, ar gynaladwyedd neu hyfywdra y gymuned. Mae patrymau yn gymhleth ac yn gallu newid ac mae rhai o’r ‘mannau amlwg’ ymhell o’r lleoliadau arfordirol amlwg. Mae gan Awdurdodau Cynllunio Lleol ran i’w chwarae mewn adnabod lle mae ail gartrefi a thai gwyliau ar rent i ymwelwyr yn cael effaith ar gymunedau ac/neu iaith.

Mae tai haf yn effeithio’n sylweddol ar rai o gymunedau Eryri. Mae dros 20% o stoc tai Beddgelert ac Arthog yn ail gartref; ac mae dros 10% o stoc tai wyth cymuned yn ail gartref. Dengys data nad oes ganddyn nhw gymaint o effaith ym Methesda, Llanberis a Llanfrothen wedi eu heffeithio gymaint, ond mae rhannau sy’n drwch o dai haf yn bodoli o fewn y cymunedau hyn. Er enghraifft, mae 40% o’r tai yn Rhyd, yng nghymuned Llanfrothen, yn ail gartref. Mae’n debyg bod dewisiadau o ran gwaith a dulliau-byw sy’n gysylltiedig â’r pandemig yn gweithredu fel pwysau am fwy o ail gartrefi a lletai gwyliau ar rent.

Cefnogaeth mewn egwyddor

Rydym yn cefnogi’r amcanion yng nghynigion Llywodraeth Cymru.

Rydym yn adnabod llawer o’r pwysau a’r effeithiau a adnabuwyd fel rhai real ac arwyddocaol. Lle dengys tystiolaeth bod potensial gan fesurau i sicrhau newid positif, byddwn yn eu cefnogi. Drwyddo draw credwn bod y cynigion yn debygol o gael effaith gwir bositif ar yr iaith Gymraeg mewn ardaloedd o Gymru gyda lefelau uchel neu gynyddol o ail gartrefi ac/neu letai gwyliau.

Fodd bynnag, mae’r rhyngweithio cymdeithasol ac economaidd cymhleth yn ei gwneud yn bwysig bod yn glir ynglŷn â pha fesurau y bwriedir iddyn nhw fynd i’r afael â pha effeithiau. Hoffem weld dadansoddiad o’r effeithiau a ragwelir gan y mesurau a gynigir ar yr iaith Gymraeg.  I sicrhau cydlyniad cymunedol, bydd angen eglurder a thegwch yn y dull o gyflwyno, strwythuro a gorfodi mesurau.

Mynd i’r afael â’r heriau ehangach

Mae tai haf yn un o’r meysydd y mae angen mynd i’r afael ag o os yw’r iaith Gymraeg yn mynd i ffynnu fel y dylai. Ochr yn ochr â chynllunio, rheoli a threthu mae angen buddsoddiad arnom mewn iaith ledled cymunedau. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr Cymraeg, rhai ohonyn nhw’n dod yn gyfranwyr i fywyd yr iaith. Byddai dull cydlynol gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu sut fyddai gweithredu ar ail gartrefi yn derbyn cefnogaeth mesurau ehangach i gefnogi’r iaith Gymraeg a chydlyniad cymunedol.

Enghraifft amlwg yw’r mater o dai gweigion a’u heffaith ar argaeledd cartrefi i breswylwyr lleol. Mae data treth Cyngor yn awgrymu bod 25,700 o dai gweigion ledled Cymru, yn ogystal â 24,000 o ail gartrefi[1]. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu ymhellach i sicrhau bod y tai gweigion yma’n cael eu defnyddio unwaith eto ochr yn ochr â mesurau newydd i fynd i’r afael â lefelau uchel o ail gartrefi a lletai gwyliau tymor byr.

A ydy’r broses yn ddigon hyblyg?

Dydy gyrrwyr economaidd a chymdeithasol y ffenomenon ail gartrefi ddim yn sefyll yn eu hunman. Mae’n debygol bod y patrymau’n newid. Bydd angen mesurau newydd i gadw mewn cysylltiad â grymoedd y farchnad ac yn ymatebol i dueddiadau fel dadfachu daearyddol cartref a gweithle. Dyma newid digynsail a dydyn ni ddim yn gwybod i ba raddau a pha mor gyflym y bydd yn effeithio ar Gymru wledig.

Risg benodol yw y bydd mesurau newydd yn symud problem i rhywle arall. Efallai y bydd anghenion caniatâd cynllunio newydd ar gyfer ail gartrefi a lletai gwyliau tymor byr o fewn ardaloedd penodol Erthygl 4 yn symud pwysau cyfredol y farchnad yn hytrach na’u lleihau. Yn y senario hon mae’n bosib y bydd cymunedau oddi allan i ardaloedd Erthygl 4 yn profi pwysau newydd. Efallai y bydd prynwyr yn adrannau ail gartrefi a lletai gwyliau tymor byr y farchnad yn fwy hyblyg na chynllunwyr, ac o ganlyniad bydd dwysau cyflym o bwysau mewn mannau nad ydyn nhw’n atebol i fesurau Erthygl 4.

Talu costau cynnydd

Efallai y bydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – ac awdurdodau lleol gyda chyfrifoldeb cynllunio ar gyfer AHNE – yn brwydro i roi rhai o’r cynigion ar waith yn effeithiol heb adnoddau ychwanegol sylweddol. Mae angen adnabod yr adnoddau mewn da bryd a’u sicrhau fel bod y newidiadau hyn yn gweithio o’r dechrau, neu efallai y bydd y systemau newydd yn dwyn gwarth, ac yn hybu galwadau i’w gwrthdroi.

Bydd angen hefyd am gynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer tai gwyliau. Ar hyn o bryd mae hi’n anodd casglu gwybodaeth oherwydd nad ydy’r farchnad tai gwyliau yn cael ei rheoleiddio.

Tuag at dwristiaeth mwy cynaliadwy?

Yn Eryri, mae lletai gwyliau yn rhan fawr o economi twristiaeth lleol fel y mae ar hyn o bryd. Mae’r mater o ail gartrefi’n rhan o gwestiwn mwy; a yw’r model presennol o dwristiaeth un ai’n ddymunol neu’n gynaliadwy? Mae ymdrechion i ddatblygu elfennau mwy cynaliadwy o dwristiaeth yn digwydd yn Eryri a mannau eraill. Beth allwn ni ei ragweld o ran anghenion llety i ymwelwyr yn y dyfodol mewn senario twristiaeth gynaliadwy?

Mae angen i ni edrych ar ail gartrefi a lletai gwyliau nid fel sefyllfa sefydlog a statig ond fel symptomau o sefyllfa sy’n newid. Mae angen i lywodraeth a chymdeithas sifil lywio newid yn y diwydiant ymwelwyr a rheolaeth lleoliadau gwyliau a deall y sefyllfa wrth wrando ar randdalwyr; mae angen i ni i gyd fod yn rhan o’r drafodaeth honno.

Mae angen i ni gydweithio i sicrhau model dwristiaeth gynaliadwy a hafal dros Gymru, un sy’n cefnogi’r iaith Gymraeg. Ar y mater sensitif hwn mae angen i ni ddewis ein hiaith yn ofalus.

[1] Chargeable empty and second homes, by local authority (number of dwellings) (gov.wales) (mae’r ffigurau a ddefnyddir ar gyfer 2020-21)

Comments are closed.